Offer CAP Powys
Cyngor Powys
Cyswllt: Uned Gymraeg
Neuadd y Sir
Cyngor Powys
Llandrindod
Powys
LD1 5LG
Rhif ffôn: 01597 826126
Ebost: translation@powys.gov.uk
Llogi offer cyfieithu ar y pryd
Ar gael ar gyfer: cyfieithwyr, unigolion, mudiadau, cwmnïau, sefydliadau ayyb
Ystafell gydag offer cyfieithu:
Siambr y Cyngor Llandrindod
Ystafell Bwyllgor Llandrindod
Siambr y Cyngor Y Trallwng
Offer cyfieithu symudol: Tourguide 40 clustffon
Prisiau llogi ystafell: i'w trafod
Prisiau llogi offer symudol: £40.00 am 20 clustffon
£80.00 am 40 clustffon
Prisiau gostyngol: mudiadau gwirfoddol
£25.00 am 20 clustffon
£50.00 am 40 clustffon
Yswirio’r offer: Cyngor Powys; cwsmer yn gyfrifol am y clustffonau
Telerau cymunedol ar gael
Canllawiau ar gyfer cyfarfodydd dwyieithog ar gael
Cwmni AWEL a chwmni SWIFTS
Cyswllt: Mr Eurwyn Pierce Jones, B.A, BSc, Mth, MIMtg
Rhif ffôn: 01686 630628
Ebost: epj@dialstart.net
Llogi offer cyfiethu ar y pryd
Ar gael ar gyfer: Ar gael ar gyfer unrhyw un a fynno, ar gyfer amrediad eang o achlysuron, ar delerau busnes masnachol; llogir gwahanol offer at ei ddefnyddio drwy Brydain benbaladr, gan gynnwys ledled Cymru wrth gwrs.
Offer cyfieithu symudol:
Sustem a Phensetiau Gwifrog (2 sianel): 200 (Darpariaeth ar gyfer y trwm eu clyw: 20 penset)
Sustem a Phensetiau Radio (3 sianel): 250 (Darpariaeth ar gyfer y trwm eu clyw: 25 penset)
Sustem a Phensetiau Isgoch (2 sianel): 300 (Darpariaeth ar gyfer y trwm eu clyw: 25 penset)
Sustem a Phensetiau Dolennog : 50
Sustem Unedau Ystafell Bwyllgora (5S): 60 (Darpariaeth ar gyfer y trwm eu clyw: 60 penset)
Sustemau atgyfnerthu, chwarae, trosglwyddo a recordio sain (PA), mewn ystod eang o ddigwyddiadau.
Hefyd ar gael: (1) Bwth cyfieithu ar gyfer dau gyfieithydd ar-y-pryd, a (2) Sustem di-benset: 5 seinydd.
Prisiau llogi offer symudol: Trwy drefniant - yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau, e.e., pa fath o offer y gofynnir amdano, union nifer o bensetiau a fyddo eu hangen, pwy sy'n dymuno eu defnyddio, natur y lleoliad, gyda neu heb gyfieithydd, cludiant yno ac yn ôl, ar ba amser o'r dydd neu'r hwyr / penwythnos y byddo eu hangen, ac ati.
Clustffonau ychwanegol: Yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau - nid y lleiaf o bwys, eu hargaeledd ar y diwrnod dan sylw a'r cyfnod o amser y derbynnir y cais rhag blaen amdanynt - gellir yn ddamcaniaethol ddarparu hyd at 500 o bensetiau ychwanegol, fel arfer ar delerau drytach na'r pris cyffredin am y niferoedd a ddyfynnir uchod. Yn fras, rhwng £2.00 a £5.00 yr un am bob penset (daw rhai mewn unedau o ddim llai nag 20 ar y tro).
Prisiau gostyngol: Fel arfer, i gleientiaid cyson yn unig - yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau eraill, i'w trafod ar y pryd.
Yswirio’r offer: Cyfrifoldeb y ‘trydydd parti' - sef y person neu'r sefydliad a fyddo'n talu am y llogi - fydd digolledu ein cwmni ni am unrhyw niwed i'r offer ac/neu am bob penset (corn gwrando / clust-ffôn) na ddychwelir ar ddiwedd cyfnod y llogi. Bydd y pris am bob penset a gollir yn amrywio rhwng £75.00 a £350.00 yr un, yn dibynnu ar y math o benset a gollwyd (/ na ddychwelwyd mohono) yn ogystal â llog o 10.00% o'r cyfryw swm am bob wythnos wedi hynny y bydd yn rhaid i'n cwmni ni aros am y swm dyledus, yn dilyn y diwrnod pan aeth y penset ar goll. Mater i'r trydydd parti felly fydd y penderfyniad i yswirio neu ddim, i wynebu'r taliad posibl hwnnw. Does dim rheswm pam y dylid colli na thorri unrhyw un o'r pensetiau, o'u defnyddio yn ôl y cyfarwyddiadau a ddarperir gan y cwmni, ac o sicrhau y cynhelir y cyfarfod dan amodau cyfrifol.
Technegydd ar gael os bydd angen
Bydd pob cyfieithydd a anfonir allan gyda pha bynnag fath o offer cyfieithu o eiddo ein cwmni ni, yn gyfieithydd a fydd wedi derbyn hyfforddiant technegol cymwys y cwmni, i'r perwyl o fedru trin a thafod yr offer dan sylw yn broffesiynol a hyfedrus. Yn yr un modd, bydd pob offer cyfieithu a anfonir allan o'n swyddfa ni wastad yn offer a fydd wedi derbyn sylw cynnal a chadw priodol, wedi ei wefru'n gywir, ac wedi ei wirio i sicrhau ei fod yn gweithio'n iawn ac yn gymwys at ei ddefnyddio yn ôl gofynion y cleient dan sylw.
Canllawiau ar gyfer cyfarfodydd dwyieithog ar gael
Mae gan y cwmni amrywiaeth o wahanol ‘ganllawiau dwyieithog' ei hun ar gael, yn dibynnu ar natur y cyfarfod y bydd adnoddau a gwasanaeth cyfieithu ar-y-pryd ar gael ynddo. Ni ddarperir y rhain fel mater o arferiad, oni bai ein bod ni'n cael gwybod ymlaen llaw yn union sut fath o gyfarfod fydd yn cael ei gynnal; gan fod cymaint o wahaniaethau yn amgylchiadau'r gwahanol fathau o gyfarfodydd y cyfieithir ynddynt.
Telerau cymunedol ar gael
Yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau; gan gofio mai cwmni masnachol ydym ni, nad ydym erioed wedi derbyn ceiniog o gymhorthdal o unrhyw ffynhonnell, i'n galluogi i ddarparu gwasanaethau ar golled ariannol. Rydym ni wedi talu pris llawn y farchnad am ein holl offer (nid fel y mentrau iaith, sydd wedi prynu eu hoffer hwy gyda chymorth grantiau ac ati), ac mae ein hoffer ni'n cael ei ddiweddaru'n gyson drwy fuddsoddiadau enfawr o arian. Dylid cadw ar gof hefyd ein bod ni'n defnyddio cyfieithwyr hyfforddedig, cymwysedig a phrofiadol iawn, sy'n haeddu derbyn cyflog safonol i adlewyrchu safon eu proffesiynoldeb; a bod hynny'n golygu bod ein cwmni ni dan oblygiadau i dalu iddynt raddfeydd sylweddol uwch (1½ > 2) am ddarparu eu gwasanaeth ar oriau ‘anghymdeithasol' gyda'r hwyr ac ar benwythnosau.
Menter Brycheiniog
Cyswllt: Kevin Davies, Menter Brycheiniog, Canolfan Ieuenctid a Chymuned Ystradgynlais, Hendreladus, Penrhos, Ystradgynlais, Powys SA9 1SE.
Dalier Sylw: Am fy mod yn gweithio rhan amser (Dydd Llun, Dydd Mawrth a Dydd Mercher yn unig), fe fydd eisiau digon o rybudd arnaf (pythefnos yn ddelfrydol) i sicrhau bod yr offer cyfieithu yn barod ar eich cyfer.
Rhif ffôn: 01639 844513
Ebost: menterb@powys.gov.uk
Llogi offer cyfiethu ar y pryd
Ar gael ar gyfer: Mudiadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol, cyfiethwyr ar y pryd
Offer cyfieithu: Offer Is-goch Sennheiser, 20 o glustffonau
Prisiau llogi offer symudol: £30 y dydd
Clustffonau ychwanegol: Mae'r offer yn cynnwys 20 o glustffonau. Nid oes clustffonau ychwanegol ar gael.
Prisiau gostyngol: I'w drafod
Yswirio'r offer: Wedi ei yswirio
Technegydd ar gael: Nac oes ond cynigir hyfforddiant.
Costau teithio. Y cwsmer sy'n gyfrifol am gasglu a dychwelyd yr offer i'n swyddfa mewn amser. Codir tâl ychwanegol os byddwch yn hwyr.
Canllawiau ar gyfer cyfarfodydd dwyieithog ddim eto ar gael ond croeso i chi ei drafod gyda ni
Telerau cymunedol i'w drafod gyda'r cwsmer.
Menter Maldwyn
Cyswllt: Menter Maldwyn
Yr Hen Goleg
Y Drenewydd
Powys
Rhif ffôn: 01686 614021
Ebost: menterm@powys.gov.uk
Llogi offer cyfiethu ar y pryd
Ar gael ar gyfer: Cyfieithwyr, unigolion, mudiadau, cwmnïau, sefydliadau, ysgolion ayyb
Offer cyfieithu symudol: Tourguide 40 clustffon
Prisiau llogi offer symudol: £10.00 y dydd am set o 20 clustffon
Yswirio’r offer: cwsmer / cyfieithydd / y fenter
Canllawiau ar gyfer cyfarfodydd dwyieithog ar gael
Apple Sound Ltd
Sir y Fflint
Offer ar gael i'w llogi ledled Cymru