Cwestiynau Cyffredin

C1 - Pwy a beth yw'r Gymdeithas?

Corff proffesiynol ar gyfer cyfieithwyr Cymraeg/Saesneg a Saesneg/Cymraeg yw Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru. Y mae ei haelodau naill ai’n gyfieithwyr llawn-amser neu ran–amser neu yn bobl y mae cyfieithu yn rhan sylweddol o’u gwaith.

Prif amcanion y Gymdeithas yw:

  • Ymestyn a chryfhau ei dulliau achredu a meincnodi er mwyn sicrhau safonau proffesiynol ym maes cyfieithu Cymraeg/Saesneg
  • Cynrychioli y rhan fwyaf o gyfieithwyr Cymraeg/Saesneg
  • Darparu cefnogaeth broffesiynol i gyfieithwyr
  • Cynrychioli’r proffesiwn cyfieithu mewn mannau dylanwadol
  • Datblygu’r diwydiant drwy fod yn gorff ymgynghorol

C2 - Pam ymaelodi?

  • Dyma'r Gymdeithas sy'n cael ei chydnabod gan Fwrdd yr Iaith a'r Cynulliad Cenedlaethol fel y corff priodol ar gyfer trafod materion sy'n ymwneud â chyfieithu Cymraeg/Saesneg.
  • Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn cyfeirio pobl at restr enwau aelodau'r Gymdeithas pan fyddant yn chwilio am gyfieithwyr masnachol.
  • Yswiriant Indemniad: Mae cwmni McParland Finn Ltd (MFL) yn cynnig pecyn Yswiriant Indemniad Proffesiynol cystadleuol wedi'i deilwrio'n arbennig ar gyfer cyfieithwyr i Aelodau Cyflawn a Sylfaenol y Gymdeithas.
  • Mae Aelodau'r Gymdeithas o dro i dro yn derbyn gostyngiadau a chynigion arbennig trwy drefniant â sefydliadau/siopau.
  • Bydd Aelodau'r Gymdeithas yn derbyn gostyngiad ar ffioedd y gweithdai a'r cynadleddau a gynhelir ganddi. Mae'r Aelodau hefyd yn derbyn gostyngiad o 20% ar y ffi arholiad/asesu. 

C3 - Beth yw'r gwahaniaeth rhwng Aelodaeth Gyflawn, Aelodaeth Sylfaenol ac Aelodaeth Cyfieithu ar y Pryd?

Cyflawn

Safon – Cyfieithydd sy’n cyflawni gwaith cwbl broffesiynol lle nad oes angen unrhyw oruchwylio na golygu. 

Amod ymgeisio - Rhaid cael tair blynedd o brofiad o gyfieithu’n llawn amser (neu brofiad cyfatebol o gyfieithu’n rhan amser).

Sylfaenol

Safon – Cyfieithydd sy’n gweithio dan oruchwyliaeth cyfieithydd profiadol.
 
Amod ymgeisio - Dylai ymgeisydd fod wedi cyrraedd y lefel briodol i gyfieithydd sydd wedi bod yn gweithio dan oruchwyliaeth am o leiaf blwyddyn. 

Cyfieithu ar y Pryd

Safon – Cyfieithydd sy’n cyflawni gwaith cwbl broffesiynol lle gall gyfieithu'n rhugl ac yn gywir o'r Gymraeg i'r Saesneg.
 
Amod ymgeisio - Dylai ymgeisydd fod â gwerth 200 awr o fynychu cyfarfodydd fel cyfieithydd yn ystod y 5 mlynedd diwethaf. 

 
C4 - Sut mae dod yn aelod?

Cysylltwch â'r swyddfa am wybodaeth

C5 - Beth yw Cyfaill i'r Gymdeithas?

Gall unrhyw un sy’n ymddiddori yn y maes ymaelodi fel Cyfaill. Bydd yn ffordd dda i ymgydnabod â’r byd cyfieithu proffesiynol yng Nghymru gan y byddwch yn derbyn gwybodaeth am holl weithgareddau’r Gymdeithas a’r trafodaethau sydd ar droed.

C6 - A ellir ymaelodi fel cwmni?

Mae'r Gymdeithas newydd wahodd cwmnïau cyfieithu preifat sydd wedi gweithredu yn y maes cyfieithu Cymraeg/Saesneg ers o leiaf dair blynedd i ymgeisio am Aelodaeth Gorfforaethol. I gael rhagor o wybodaeth ewch i dudalen Aelodaeth Gorfforaethol.

C7 - Tâl Aelodaeth?

Y tâl aelodaeth ar hyn o bryd yw £130 i Aelodau Cyflawn, £120 i Aelodau Sylfaenol, £130 Aelodaeth Cyfieithu ar y Pryd

C8 - Pwy fydd yn marcio’r gwaith?

Bydd dau aelod o’r Bwrdd Arholi Testunau/Bwrdd CAP yn marcio/asesu pob sgript/cais. Pan na cheir cytundeb rhwng y ddau cyfeirir y sgriptiau i sylw’r Prif Arholwr, sef aelod arall o’r Bwrdd Arholi Testunau/Bwrdd CAP.

C9 - Sut mae cysylltu â'r Gymdeithas?

Defnyddiwch y wybodaeth ar y dudalen gyswllt.

 

 
Graffigwaith Ymaelodi Graffigwaith Chwilio am aelod


Tâl Aelodaeth

Aelodaeth Cyfieithu ar y Pryd: £130 y flwyddyn
Aelodaeth Gyflawn: £130 y flwyddyn
Aelodaeth Sylfaenol: £120 y flwyddyn

Cliciwch ar y dolenni isod i gael gwybod rhagor am y gwahanol fathau o aelodaeth a'r drefn arholi ac i lwytho i lawr rai o'n hen bapurau arholiad:

Arholiadau Cyfredol
Aelodaeth Gyflawn
Aelodaeth Sylfaenol
Aelodaeth Cyfieithu ar y Pryd
Aelodaeth Gorfforaethol
Cwestiynau Cyffredin
Hen Bapurau Arholiad