Cronfa Ddata Lleoliad Offer Cyfieithu ar y Pryd
Bydd sefydliadau a chymdeithasau o bob math yn llogi offer cyfieithu i fudiadau, busnesau, sefydliadau a grwpiau amrywiol, ac weithiau yn darparu cyfieithydd yn ogystal. Mae’r Mentrau Iaith a grwpiau eraill sy’n gweithio o fewn y gymuned, yn gwahaniaethu, o ran eu telerau a phrisiau llogi, rhwng defnydd masnachol (llogi’r offer i gwmnïau a sefydliadau gweddol fawr) a defnydd cymunedol a gwirfoddol (llogi i grwpiau gwirfoddol a di-elw).
Bydd y gronfa hon yn hwyluso’r gwaith o drefnu cyfarfodydd dwyieithog. Y nod yw rhannu gwybodaeth a rhoi help llaw i ateb y cwestiynau pwysig sy’n codi wrth gynllunio cyfarfodydd o’r fath:
- Ble gellir llogi offer?
- Beth yw cost llogi offer a gwasanaeth cyfieithu?
- A oes telerau arbennig ar gyfer mudiadau gwirfoddol a chyfarfodydd a drefnir o fewn y gymuned?
- Beth yw rôl y cyfieithydd a’r cadeirydd mewn cyfarfod dwyieithog?
- Beth yw’r gwahanol fathau o offer cyfieithu ar y pryd sydd ar gael?
Ni allwn ni fel Cymdeithas warantu safon na chyflwr yr offer a restrir yn y gronfa ond ein nod yw rhoi amcan o’r hyn sydd ar gael ac ymhle. Bydd rhaid trafod manylion ac amodau gyda darparwyr yr offer a’r cyfieithydd.
Byddem yn croesawu unrhyw wybodaeth y gellir ei hychwanegu at y gronfa, neu newidiadau i’r wybodaeth a roddir ar hyn o bryd. Gallwch wneud hynny trwy gysylltu â ni yn y swyddfa.
Er mwyn eich helpu i ddod o hyd i offer cyfieithu ar y pryd, rhestrir lleoliad offer cyfieithu yn ôl siroedd.
Dewiswch yr ardal lle rydych am gynnal cyfarfod trwy glicio ar y rhestr ar y dde. Bydd sefydliadau o fewn y sir sy’n llogi eu offer i eraill yn ymddangos.