Staff y swyddfa

Geraint Wyn Parry – Prif Weithredwr

Ymunodd â’r Gymdeithas ddiwedd Ebrill 2007 wedi cyfnod yn Rheolwr Busnes Cyfle. Cyn hynny bu'n gweithio mewn gwahanol swyddi gweinyddol a marchnata gyda Chyngor Sir Gwynedd/Cyngor Gwynedd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cwmni’r Frân Wen, a Chwmni Theatr Cymru.

Graddiodd yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Cyn hynny bu’n ddisgybl yng Ngholeg Llanymddyfri, Ysgol Gynradd Y Bermo, ac Ysgol Gymraeg Llundain.

Mae’n byw yng Nghricieth.

Nia Wyn Edwards - Rheolwr Systemau

Dilynodd gwrs Drama yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth ac yna am 12 mlynedd bu'n gweithio fel actores hunan-gyflogedig mewn gwahanol feysydd gan gynnwys ffilm, teledu a theatr, yn bennaf ym myd theatr-mewn-addysg. Yn ystod y cyfnod hwn bu hefyd yn gweithio fel cynorthwy-ydd gwerthu nwyddau mewn siop a derbynnydd mewn gwahanol ganolfannau croeso yn ardal Caernarfon a Môn.

Yn 1999 dilynodd gwrs amser llawn Diploma Dwyieithog Uwch mewn Gweithdrefnau Gweinyddol yng Ngholeg Menai gan ymuno â'r Gymdeithas fel Swyddog Gweinyddol llawn amser fis Gorffennaf 2000. Mae bellach yn Rheolwr Systemau y Gymdeithas.

Yn enedigol o Gaernarfon, mae bellach yn byw yn Llangefni.

Judith Kaufmann – Rheolwr Datblygiad Proffesiynol

Dilynodd gwrs gradd mewn cyfieithu ym Mhrifysgol Leipzig ac fel rhan o'r Diploma cyflwynodd draethawd ar gyfraniad cyfieithu at hyrwyddo dwyieithrwydd yng Nghymru.  Gweithiodd ar wahanol brojectau i Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn y cyfnod rhwng 2002 a 2006 cyn dilyn cwrs ymchwil PhD ym Mhrifysgol Bangor lle astudiodd effaith cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd ar y defnydd o'r Gymraeg. [Cliciwch yma i weld copi o'r traethawd.]

Bellach, mae'n Rheolwr Datblygiad Proffesiynol y Gymdeithas. 

Mae'n aelod o barti canu gwerin Y Boncathod.  Mae'n byw yn Rachub.

 
Graffigwaith Ymaelodi Graffigwaith Chwilio am aelod