Sut i ymuno

Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn argymell bod comisiynwyr ‘yn ystyried defnyddio cyfieithydd sy'n aelod o gymdeithas cyfieithu proffesiynol' ac yn cyfeirio unrhyw un sy'n chwilio am gyfieithydd at restr aelodau'r Gymdeithas.

Ceir 3 lefel o aelodaeth broffesiynol ar gyfer cyfieithwyr:

  • Aelodaeth Gyflawn ar gyfer cyfieithwyr testunau sydd wedi bod yn cyfieithu'n amser-llawn am o leiaf 3 blynedd
  • Aelodaeth Sylfaenol ar gyfer cyfieithwyr testunau sy'n cychwyn ym maes cyfieithu
  • Aelodaeth Cyfieithu ar y Pryd i gyfieithwyr sydd wedi llwyddo ym mhrawf cyfieithu ar y pryd CCC.

Y Gymdeithas fydd yn cynghori Bwrdd yr Iaith ar faterion cyfieithu

 

 

 
Graffigwaith Ymaelodi Graffigwaith Chwilio am aelod


Tâl Aelodaeth

Aelodaeth Cyfieithu ar y Pryd: £130 y flwyddyn
Aelodaeth Gyflawn: £130 y flwyddyn
Aelodaeth Sylfaenol: £120 y flwyddyn

Cliciwch ar y dolenni isod i gael gwybod rhagor am y gwahanol fathau o aelodaeth a'r drefn arholi ac i lwytho i lawr rai o'n hen bapurau arholiad:

Arholiadau Cyfredol
Aelodaeth Gyflawn
Aelodaeth Sylfaenol
Aelodaeth Cyfieithu ar y Pryd
Aelodaeth Gorfforaethol
Cwestiynau Cyffredin
Hen Bapurau Arholiad