Cyfieithu ar y Pryd

Mae hi bellach yn arferol cynnig gwasanaeth cyfieithu mewn cyfarfodydd cyhoeddus yng Nghymru. Bydd yn arwydd eich bod:

  • yn gefnogol i'r iaith Gymraeg
  • yn dymuno trin pawb yn gyfartal gan roi'r hawl i bawb siarad yn ei ddewis iaith
  • yn dymuno hybu gwell ddealltwriaeth rhwng unigolion
  • yn dymuno gweld eich grŵp yn cydweithio'n effeithiol i gyflawni ei nod

Dibynna llwyddiant cyfarfodydd dwyieithog i raddau helaeth ar sgiliau'r cyfieithydd.  Cofiwch fod cyfieithu ar y pryd yn sgìl arbenigol a dylech gyflogi cyfieithydd proffesiynol sydd â meistrolaeth gadarn ar y Saesneg a'r Gymraeg fel aelodau Cyfieithu ar y Pryd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru.

Rhestr Wirio:

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn sicrhau gwasanaeth cyfieithydd medrus mewn da bryd a rhowch gyfarwyddiadau llawn iddo ynglŷn â'r trefniadau ymarferol.
  • Llogwch offer cyfieithu ar y pryd pwrpasol - gan y cyfieithydd, gan Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru neu gan sefydliad arall.
  • Cytunwch ar delerau â'r cyfieithydd cyn y cyfarfod.
  • Anfonwch y papurau perthnasol at y cyfieithydd cyn y cyfarfod.
  • Gofalwch fod y defnyddwyr yn cael cyfarwyddyd ynglŷn â defnyddio'r offer.

Gall cyfieithydd profiadol hefyd eich cynghori ar faterion eraill sy'n allweddol i lwyddiant y gwasanaeth, e.e. y trefniadau ymlaen llaw a chyfarwyddiadau gan y cadeirydd. 

I ddod o hyd i gyfieithydd ar y pryd ewch i'n peiriant chwilio.

Gall cyfieithwyr ar y pryd drefnu offer ar gyfer y cyfarfod ond os hoffech logi offer drosoch eich hun ewch i'n cronfa ddata.

 
Graffigwaith Ymaelodi Graffigwaith Chwilio am aelod

Prawf Cyfieithu ar y Pryd - 16 Mawrth 2012

Bwriedir cynnal y prawf CAP nesaf yng Nghaerdydd a'r Groeslon (Caernarfon) ar 16 Mawrth 2012.

Cyn ystyried sefyll y prawf, rydym yn argymell y dylai ymgeiswyr feddu ar 200 awr o brofiad cyfieithu ar y pryd.

Bydd gofyn cofrestru erbyn 2 Mawrth 2012 (sylwer mae'r dyddiad yn wahanol i'r hyn a nodir ar y daflen wybodaeth). Cost sefyll y prawf yw £150 (caiff Aelodau Sylfaenol a Chyflawn y Gymdeithas ostyniad o 20%). I gael rhagor o wybodaeth gweler y daflen isod ynghyd â'r ffurflen gofrestru neu cysylltwch â Geraint.

Taflen Wybodaeth Prawf CAP Mawrth 2012
Ffurflen Gofrestru Prawf CAP Mawrth 2012

Canllawiau Arfer Da wrth Gyfieithu ar y Pryd


___________________________________

I ddod o hyd i gyfieithydd ar y pryd ... 

Cronfa ddata lleoliad offer cyfieithu ar y pryd

Gwneuthurwyr offer Cyfieithu ar Pryd
Os byddwch yn ystyried prynu offer cyfieithu ar y pryd cysylltwch â'r cwmniau ar ein rhestr. Os gwyddoch am gwmnïau eraill sy'n gwerthu offer rhowch wybod inni yn y swyddfa.