Sefydlu safon y Sylfaenol
Ymarferion o safon yr arholiad Sylfaenol
Mae’r adran hon yn cynnwys nifer o ymarferion sy’n defnyddio darnau arholiad a osodwyd yn y gorffennol, ynghyd ag enghreifftiau o gyfieithu llwyddiannus ac aflwyddiannus a welwyd wrth farcio’r darnau hynny, i’w defnyddio gan ddarpar gyfieithwyr fel gwersi hunan-ddysgu.
Bwriad yr ymarferion hyn yw alluogi rhai sy’n ystyried sefyll arholiad Sylfaenol y Gymdeithas i bwyso a mesur safon eu cyfieithu cyn sefyll yr arholiad.
Ni chodir tâl am ddefnyddio’r rhain. Maent yn adnodd i gynorthwyo’r darpar gyfieithydd.
Mae pob un o’r ymarferion yn hunangynhaliol. Mae cyfarwyddyd clir ynghylch beth i’w wneud wrth symud o gam i gam.
Yn ddelfrydol, dylid gweithio drwy’r ymarferion i gyd yn eu trefn. Os nad yw hynny’n bosibl am resymau credadwy, fe ellid dewis ymarferion a fydd, efallai, yn ymdrin â gwendidau y mae’r ymgeisydd yn ymwybodol eu bod yn digwydd yn ei waith.