Aelodaeth Sylfaenol
Safon Aelodaeth Sylfaenol (Testun)
Dyma'r lefel broffesiynol sylfaenol i'r rhai sy'n gwneud gwaith cyfieithu mewn amrywiaeth o feysydd cyffredinol ac yn trafod meysydd mwy arbenigol o bryd i'w gilydd. Disgwylir i'r safon gyfateb i waith cyfieithydd sydd ar ddechrau ei yrfa ac yn gweithio dan arolygiaeth cyfieithydd profiadol ers blwyddyn a rhagor.
Disgwylir iddo fedru cyfieithu deunydd darllen cyffredinol yn weddol ddidrafferth. Dylai feddu ar ddealltwriaeth gyffredinol o gefndir diwylliannol y ddwy iaith.
Meini Prawf
Drwy arholiad yn unig y gellir ymgeisio am Aelodaeth Sylfaenol. Cynhelir dau arholiad awr a 35 munud (95 munud) yr un o fewn sesiwn arholi:
Papur Un – Cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg
Papur Dau – Cyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg
Bydd llwyddo mewn unrhyw arholiad a gynigir gan y Gymdeithas am Aelodaeth Sylfaenol yn sicrhau bod yr ymgeisydd wedi cyrraedd lefel broffesiynol briodol o ran ystyr, cywair, cystrawen a chywirdeb. Mae enghreifftiau o hen bapurau arholiad Aelodaeth Sylfaenol i'w gweld yma.
Nid oes rhaid llwyddo yn y ddau arholiad cyn medru ennill aelodaeth o'r Gymdeithas. Gall ymgeisydd hefyd ddewis sefyll arholiad ar sail cyfieithu i un iaith yn unig. Os bydd ymgeisydd yn llwyddo ac os caiff ei dderbyn yn aelod bydd y Cyfeirlyfr yn nodi pa iaith y mae'r ymgeisydd wedi ennill cymhwyster i gyfieithu iddi.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â'r swyddfa