Aelodaeth Gyflawn

Safon Aelodaeth Gyflawn (Testun)

Bydd hyn yn cyfateb i aelodaeth gwbl broffesiynol lle nad oes ar yr ymgeisydd angen unrhyw oruchwyliaeth.

Disgwylir iddo fedru cyfieithu'n rhugl ac yn gywir, ysgrifennu mewn sawl arddull a chywair yn ôl yr angen a gallu ymdopi ag iaith haniaethol neu dechnegol. Disgwylir iddo hefyd feddu ar ddealltwriaeth glir o gefndir diwylliannol y ddwy iaith. Ar ôl iddo gwblhau ac adolygu ei gyfieithiadau, ni ddylai fod angen eu diwygio na'u cywiro.

Gall unrhyw gyfieithydd sydd â thair blynedd o brofiad o gyfieithu'n amser-llawn, neu â phrofiad cyfatebol o gyfieithu'n rhan-amser, ymgeisio am Aelodaeth Gyflawn.

Meini Prawf

Drwy arholiad yn unig y gellir ymgeisio am Aelodaeth Gylfawn. Cynhelir dau arholiad dwyr awr a phum munud  (125 munud) yr un o fewn sesiwn arholi:

Papur Un – Cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg
Papur Dau – Cyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg

Bydd llwyddo mewn unrhyw arholiad a gynigir gan y Gymdeithas am Aelodaeth Gyflawn yn sicrhau bod yr ymgeisydd wedi cyrraedd lefel broffesiynol briodol o ran ystyr, cywair, cystrawen a chywirdeb. Mae enghreifftiau o hen bapurau arholiad Aelodaeth Gyflawn i'w gweld yma.

Nid oes rhaid llwyddo yn y ddau arholiad cyn medru ennill aelodaeth o'r Gymdeithas. Gall ymgeisydd hefyd ddewis sefyll arholiad ar sail cyfieithu i un iaith yn unig. Os bydd ymgeisydd yn llwyddo ac os caiff ei dderbyn yn aelod bydd y Cyfeirlyfr yn nodi pa iaith y mae'r ymgeisydd wedi ennill cymhwyster i gyfieithu iddi.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â'r swyddfa

 

 

 
Graffigwaith Ymaelodi Graffigwaith Chwilio am aelod


Tâl Aelodaeth

Aelodaeth Cyfieithu ar y Pryd: £130 y flwyddyn
Aelodaeth Gyflawn: £130 y flwyddyn
Aelodaeth Sylfaenol: £120 y flwyddyn

Cliciwch ar y dolenni isod i gael gwybod rhagor am y gwahanol fathau o aelodaeth a'r drefn arholi ac i lwytho i lawr rai o'n hen bapurau arholiad:

Arholiadau Cyfredol
Aelodaeth Gyflawn
Aelodaeth Sylfaenol
Aelodaeth Cyfieithu ar y Pryd
Aelodaeth Gorfforaethol
Cwestiynau Cyffredin
Hen Bapurau Arholiad