Croeso

Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yw’r corff proffesiynol cenedlaethol ar gyfer cyfieithwyr Cymraeg/Saesneg, p’un a ydynt yn gyfieithwyr testun neu’n gyfieithwyr ar y pryd.

Ei nod yw sicrhau safonau proffesiynol ym maes cyfieithu Cymraeg/Saesneg a sicrhau hefyd fod y diwydiant cyfieithu’n datblygu’n effeithiol fel rhan o’r broses o hyrwyddo’r Gymraeg a dwyieithrwydd.

Mae gan y Gymdeithas dair lefel o aelodaeth broffesiynol: Cyflawn a Sylfaenol ym maes cyfieithu testun ac aelodaeth Cyfieithu ar y Pryd. Rhaid llwyddo yn nhrefn arholi’r Gymdeithas i ennill aelodaeth ohoni.

Noddir y Gymdeithas gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac fe’i hystyrir hi’n un o brif bartneriaid y Bwrdd. Bydd y Gymdeithas yn cynghori’r Bwrdd ar faterion cyfieithu.

I ddod o hyd i gyfieithydd cydnabyddedig sydd ar gael i wneud gwaith masnachol ewch i'n Cyfeirlyfr.

Ceir hefyd restr lawn o'r holl aelodau yn nhrefn y wyddor.



 

 
Graffigwaith Ymaelodi Graffigwaith Chwilio am aelod

Y NEWYDDION DIWEDDARAF ... 


Gwybodaeth am weithdai Ionawr - Mawrth 2012 ynghyd â ffurflenni cofrestru.

 

 

 

 

 

 

 logo Bwrdd yr Iaith Gymraeg a logo Llywodraeth Cynulliad Cymru