Cyfieithu ar y Pryd
Mae hi bellach yn arferol cynnig gwasanaeth cyfieithu mewn cyfarfodydd cyhoeddus yng Nghymru. Bydd yn arwydd eich bod:
- yn gefnogol i'r iaith Gymraeg
- yn dymuno trin pawb yn gyfartal gan roi'r hawl i bawb siarad yn ei ddewis iaith
- yn dymuno hybu gwell ddealltwriaeth rhwng unigolion
- yn dymuno gweld eich grŵp yn cydweithio'n effeithiol i gyflawni ei nod
Dibynna llwyddiant cyfarfodydd dwyieithog i raddau helaeth ar sgiliau'r cyfieithydd. Cofiwch fod cyfieithu ar y pryd yn sgìl arbenigol a dylech gyflogi cyfieithydd proffesiynol sydd â meistrolaeth gadarn ar y Saesneg a'r Gymraeg fel aelodau Cyfieithu ar y Pryd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
Rhestr Wirio:
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn sicrhau gwasanaeth cyfieithydd medrus mewn da bryd a rhowch gyfarwyddiadau llawn iddo ynglŷn â'r trefniadau ymarferol.
- Llogwch offer cyfieithu ar y pryd pwrpasol - gan y cyfieithydd, gan Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru neu gan sefydliad arall.
- Cytunwch ar delerau â'r cyfieithydd cyn y cyfarfod.
- Anfonwch y papurau perthnasol at y cyfieithydd cyn y cyfarfod.
- Gofalwch fod y defnyddwyr yn cael cyfarwyddyd ynglŷn â defnyddio'r offer.
Gall cyfieithydd profiadol hefyd eich cynghori ar faterion eraill sy'n allweddol i lwyddiant y gwasanaeth, e.e. y trefniadau ymlaen llaw a chyfarwyddiadau gan y cadeirydd.
I ddod o hyd i gyfieithydd ar y pryd ewch i'n peiriant chwilio.
Gall cyfieithwyr ar y pryd drefnu offer ar gyfer y cyfarfod ond os hoffech logi offer drosoch eich hun ewch i'n cronfa ddata.