Graffigwaith Ymaelodi Graffigwaith Chwilio am aelod

Croeso i’r Cyfeirlyfr o Aelodau Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru.
Gan fod cyflwyniad dwyieithog lle mae’r Gymraeg o safon uchel yn gwella eich delwedd, y mae’n hanfodol cyflogi cyfieithydd cymwys. Mae hyn yn wir hefyd wrth gomisiynu cyfieithydd ar y pryd.
Dyma'r unig gofrestr o gyfieithwyr Cymraeg/Saesneg cydnabyddedig ar sail eu gwaith, a chyfeirir unrhyw un sydd yn holi am gyfieithydd at y rhestr hon gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
Rhoir cyngor pellach ynghylch comisiynu cyfieithydd yma.


Defnyddiwch y peiriant chwilio ar y chwith i ddod o hyd i’ch cyfieithydd:
1. Dewiswch un ai ‘Cyfieithydd’ (testun) neu ‘Gyfieithydd ar y Pryd’*
2. Os ‘Cyfieithydd’, yna dewiswch i ba iaith y mae gofyn cyfieithu.
3. Dewiswch un ai Aelod Cyflawn neu Aelod Sylfaenol neu'r ddwy lefel.
4. Gallwch hefyd ychwanegu opsiynau eraill megis maes, gwasanaethau eraill ac ardal.
5. Bydd y blwch olaf yn nodi nifer Canlyniadau’r chwiliad ac o glicio ar y rhif cewch restr lawn o enwau ar yr ochr dde heb fod mewn unrhyw drefn o gwbl.
*6. Os ‘Cyfieithydd ar y Pryd’, dim ond cyfieithu un ffordd a geir sef o’r Gymraeg i’r Saesneg a dim ond un lefel o aelodaeth a geir sef Aelod Cyfieithu ar y Pryd.

*Er bod modd creu rhestr yn ôl ardal, cofiwch hefyd fod nifer o'r aelodau hyn ar gael i gyfieithu mewn cyfarfodydd ledled Cymru ac nid o fewn eu hardaloedd eu hunain yn unig.