Amdanom ni

Sefydlwyd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn 1976 i fod yn llwyfan ar gyfer trafod materion sy'n ymwneud â chyfieithu Cymraeg/Saesneg. Bellach, mae'n gwmni cyfyngedig drwy warant, rhif 4741023.

Y Dr Bruce Griffiths a Dafydd Glyn Jones yw dau Lywydd er Anrhydedd y Gymdeithas. Cadeirydd y Gymdeithas yw Berwyn Prys Jones a’r Is-Gadeirydd yw Fiona Gannon. Rheolir y Gymdeithas gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr a etholir o blith yr aelodau.

Mae'r Gymdeithas yn aelod swyddogol o’r Fédération Internationale des Traducteurs (FIT), sef corff rhyngwladol o gymdeithasau cyfieithwyr proffesiynol sy'n hyrwyddo buddiannau cyfieithwyr a chyfieithu. 

 

 
Graffigwaith Ymaelodi Graffigwaith Chwilio am aelod