Adnoddau

Cyfle i gasglu ynghyd gronfa o wybodaeth berthnasol i gyfieithwyr ac eraill sy’n ymwneud â chyfieithu a dwyieithrwydd.

Yr ydym wedi llunio rhestr o Lyfryddiaeth Sylfaenol ar gyfer Unedau Cyfieithu y gallai unrhyw gyfieithydd ei defnyddio wrth drafod anghenion swyddfa gyda’i gyflogwr.

Byddwn yn croesawu cyfraniadau gan gyfieithwyr ac eraill sydd wedi bod yn creu rhestri o dermau ac enwau ac yn eu cynnwys dan Geirfâu. Fel man cychwyn yr ydym wedi cynnwys geirfa y mae Berwyn Prys Jones wedi’i llunio dros y blynyddoedd.

Bydd modd ymweld â gwefan Canolfan Bedwyr drwy’r adran hon er mwyn cael gwybodaeth am ddatblygiadau sydd ar y gweill.

Gellir ymuno yn y drafodaeth ddyddiol ar dermau drwy gofrestru gyda welshtermaucymraeg a bydd hynny hefyd yn golygu y gellir ymgynghori ag archif y drafodaeth.

Dan Terminoleg gellir cael copi electronig o Llyfryddiaeth Geiriaduron Termau (1985) ynghyd â rhestr o’r Termau a gyhoeddwyd wedi hynny.

Gobeithir creu cronfa gynhwysfawr o leoliad offer Cyfieithu ar y Pryd, ynghyd â manylion am yr offer a’r telerau llogi.

Dan Llyfryddiaeth Gefndir rhestrir cyfrolau ac erthyglau am gyfieithu a dwyieithrwydd.

*******************************************************************

Croeso i unrhyw un ychwanegu at y gronfa drwy awgrymu rhestr o dermau, geiriadur, erthygl neu ymchwil sy'n berthnasol i'r byd cyfieithu.  Cysylltwch â'r swyddfa.

 
Graffigwaith Ymaelodi Graffigwaith Chwilio am aelod

Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn cynnig cefnogaeth ar weithredu'n ddwyieithog - ewch i'w gwefan, neu cysylltwch â'r Llinell Gyswllt - 0845 6076070. 
Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Datblygu'r Proffesiwn Cyfieithu Cymraeg/Saesneg.

 

Traethawd PhD
Judith Kaufmann, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor - Mawrth 2009
Cymdeithaseg Cyfieithu - dylanwad cyfieithu ar y pryd ar y defnydd o'r Gymraeg yng Ngwynedd

 

Traethawd MRes
Dawn Wooldridge, Ysgol Ieithoedd ac Iaith Saesneg, Prifysgol Bangor - 2011
Gwella Cysill at Ddefnydd Cyfieithwyr: adnabod ymyrraeth gan yr iaith Saesneg mewn testunau Cymraeg


Cyfieithu Llwyddiannus ac Aflwyddiannus
Dechreuwyd llunio'r ddogfen hon yn 2006 ar gais y Bwrdd Arholi Testunau. Mae'n arddangos arfer da yng nghwaith ymgeiswyr arholiad. Defnyddiwyd hefyd enghreifftiau o gyfieithu aflwyddiannus gan esbonio'r camgymeriadau ynddynt.