Sefydlu safon y Sylfaenol

Ymarferion o safon yr arholiad Sylfaenol

Mae’r adran hon yn cynnwys nifer o ymarferion sy’n defnyddio darnau arholiad a osodwyd yn y gorffennol, ynghyd ag enghreifftiau o gyfieithu llwyddiannus ac aflwyddiannus a welwyd wrth farcio’r darnau hynny, i’w defnyddio gan ddarpar gyfieithwyr fel gwersi hunan-ddysgu.

Bwriad yr ymarferion hyn yw alluogi rhai sy’n ystyried sefyll arholiad Sylfaenol y Gymdeithas i bwyso a mesur safon eu cyfieithu cyn sefyll yr arholiad.

Ni chodir tâl am ddefnyddio’r rhain. Maent yn adnodd i gynorthwyo’r darpar gyfieithydd.

Mae pob un o’r ymarferion yn hunangynhaliol. Mae cyfarwyddyd clir ynghylch beth i’w wneud wrth symud o gam i gam.

Yn ddelfrydol, dylid gweithio drwy’r ymarferion i gyd yn eu trefn. Os nad yw hynny’n bosibl am resymau credadwy, fe ellid dewis ymarferion a fydd, efallai, yn ymdrin â gwendidau y mae’r ymgeisydd yn ymwybodol eu bod yn digwydd yn ei waith.

Cyn bwrw ati, fe ddylech ddarllen y ddogfen Cyflwyniad i'r Ymarferion cyn rhoi cynnig ar yr ymarfer. Ac wrth wneud yr ymarfer, dylech ddarllen a dilyn y cyfarwyddiadau’n ofalus.

 
Cyfarwyddyd

I weld yr ymarfer cliciwch ar y teitl isod. Wedyn fe welwch ddwy ddolen:

i) un i’r ymarfer ei hun;

ii) yr ail at restr o wendidau a welwyd wrth gyfieithu’r darn dan sylw wedi eu rhestru dan y 4 elfen o YSTYR, CYWAIR, CYSTRAWEN, CYWIRDEB, ynghyd â dewis i ddangos y pob un o’r rhain. Bydd y rhain yn ymddangos mewn ffenest newydd.