Aelodaeth Sylfaenol

Safon Aelodaeth Sylfaenol

Dyma'r lefel broffesiynol sylfaenol i'r rhai sy'n gwneud gwaith cyfieithu mewn amrywiaeth o feysydd cyffredinol ac yn trafod meysydd mwy arbenigol o bryd i'w gilydd. Disgwylir i'r safon gyfateb i waith cyfieithydd sydd ar ddechrau ei yrfa ac yn gweithio dan arolygiaeth cyfieithydd profiadol ers blwyddyn a rhagor.

Disgwylir iddo fedru cyfieithu deunydd darllen cyffredinol yn weddol ddidrafferth. Dylai feddu ar ddealltwriaeth gyffredinol o gefndir diwylliannol y ddwy iaith.

Meini Prawf

Drwy arholiad yn unig y gellir ymgeisio am Aelodaeth Sylfaenol. Cynhelir dau arholiad awr-a-hanner (90 munud) yr un o fewn sesiwn arholi:

Papur Un – Cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg
Papur Dau – Cyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg

Bydd llwyddo mewn unrhyw arholiad a gynigir gan y Gymdeithas am Aelodaeth Sylfaenol yn sicrhau bod yr ymgeisydd wedi cyrraedd lefel broffesiynol briodol o ran ystyr, cywair, cystrawen a chywirdeb. Mae enghreifftiau o hen bapurau arholiad Aelodaeth Sylfaenol i'w gweld yma

Nid oes rhaid llwyddo yn y ddau arholiad cyn medru ennill aelodaeth o'r Gymdeithas. Gall ymgeisydd hefyd ddewis sefyll arholiad ar sail cyfieithu i un iaith yn unig. Os bydd ymgeisydd yn llwyddo ac os caiff ei dderbyn yn aelod bydd y Cyfeirlyfr yn nodi pa iaith y mae'r ymgeisydd wedi ennill cymhwyster i gyfieithu iddi.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â'r swyddfa

 


 

 
 

Cynnwys

  Cyflwyniad
  Aelodaeth Sylfaenol
  Aelodaeth Gyflawn
  Aelodaeth Cyfieithu ar y Pryd
  Cyfeillion
     
  FAQ's
     
     
 
Tâl Aelodaeth
Cyflawn: £120 y flwyddyn
Sylfaenol:   £110 y flwyddyn
Cyfeillion:   £60 y flwyddyn
Aelodaeth CAP   £120 y flwyddyn

     
 
 
cliciwch yma i ddychwelyd i'r Hafan
Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, Bryn Menai, Ffordd Caergybi, Bangor, Gwynedd, LL57 2JA
Ffôn 01248 371 839
Ffacs 01248 371850