Translation assignment, bi monthly
Marie Lycett
Dixon Associates
Creative Ind. Centre
Wolverhampton
WV10 9TG ebost: info@dixon-associates.co.uk
ffon dydd: 01902 312988
Manylion: We require a quotation for a translation of approx. 8000 words to be translated from English to Welsh on a bi monthly basis. This is a newsletter. Interested translators should EMAIL only, their rates and experience, together with availability.
rhif ffôn am fwy o wybodaeth: 01902 312988
Cyfieithydd Rhan-amser
TEITL Y SWYDD: Cyfieithydd (Rhan-amser)
GRADD A CHYFLOG: Gradd 4/5: £17,913-£21,025 yn ôl cyfran
ADRAN: Adnoddau Dynol
YN ATEBOL I: Hwylusydd y Cynllun Iaith Gymraeg
PRIF DDIBEN Y SWYDD
I sicrhau bod gwefan a dogfennau eraill y Brifysgol yn cael eu cyfieithu a'u cynnal i'r safon uchaf o Gymraeg.
DYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU
I ymddwyn fel y prif gyswllt ar gyfer holl gyfieithiadau Cymraeg y Brifysgol.
- I gynnal gwasanaeth cyfieithu parhaol, cywir ac o'r safon uchaf, ac i ddatblygu a chynnal cysylltiadau effeithiol gyda chydweithwyr yn y Brifysgol mewn perthynas â'r wefan a chyfieithiadau eraill.
- I fod yn gyfrifol am ddatblygu a chynnal y fersiwn Gymraeg o'r wefan.
- I gydymffurfio â phob polisi perthnasol a'r dull corfforaethol priodol ymhob agwedd o'ch gwaith.
- I ddatblygu a chynnal cysylltiadau gyda chyfieithwyr allanol ac asiantaethau cyfieithu.
- I fynychu cyfarfodydd ar ran Hwylusydd y Cynllun Iaith a chyfrannu at brosiectau eraill yn ymwneud â'r iaith Gymraeg, yn ôl y gofyn.
- I ddatblygu a chynnal ‘Geiriadur Termau' mewnol sy'n berthnasol i'r Brifysgol.
- I gynorthwyo Hwylusydd y Cynllun Iaith yn y gwaith o weithredu Cynllun Iaith y Brifysgol, yn ôl y gofyn.
PERSONOL
- I gynnal safonau proffesiynol o ran perthnasau gweithio, gan gynnwys arferion anwahaniaethol.
- I ymdrin yn brydlon, mewn dull sensitif ac ystyrlon, gydag unigolion sydd y tu allan i'r Brifysgol, aelodau o'r cyhoedd, staff a myfyrwyr.
- I sicrhau cyfrinachedd bob amser mewn cysylltiad â gwaith yr adran Adnoddau Dynol.
DYLETSWYDDAU CYFFREDINOL
- I arolygu perfformiad a nodi meysydd i'w gwella.
- I gwblhau arolwg yn unol â Chynllun Arfarniad a Datblygiad Proffesiynol Staff.
- I gyflawni pob dyletswydd briodol o ran Iechyd a Diogelwch.
- I gynnal lefel uchel o gyfrinachedd a doethineb yn unol â'ch gwaith fel gweinyddydd proffesiynol.
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill ar gais Hwylusydd y Cynllun Iaith a'r Dirprwy Is-Ganghellor (Adnoddau Dynol).
PRIF GYSYLLTIADAU
Mewnol
- Swyddogion Gwe pob Ysgol/Adran
- Aelodau Tîm y We
- Swyddog Cyhoeddiadau (Arlein a Phrint)
- Aelodau eraill o staff
Allanol
Mae'r disgrifiad hwn o'r swydd yn gosod allan ddyletswyddau'r swydd ar adeg ei lunio. Gall y dyletswyddau hyn amrywio o bryd i'w gilydd heb newid cymeriad cyffredinol na lefel y cyfrifoldebau dan sylw. Mae amrywiadau felly'n digwydd yn gyffredin ac ni allant ynddynt eu hunain gyfiawnhau ailystyried graddio'r swydd.
MANYLION Y PERSON CYF. SWYDD: HR61
|
Hanfodol |
Dymunol |
Addysg/
Cymwysterau a Hyfforddiant
Arbennig |
Profiad ac/neu gymhwyster cyfieithu |
Aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru |
Gwybodaeth
a Medrau |
Yn gallu cyfathrebu'n effeithiol ar bob lefel
Yn gallu defnyddio cyfrifiadur ac yn hunanddigonol
Sgiliau trefniadol a gweinyddol da
Sgiliau cyfathrebu da yn y Gymraeg a'r Saesneg
Yn gallu gweithio i amserlen a blaenoriaethu tasgau sy'n groes i'w gilydd
Wedi ymrwymo i arfer gorau a gwasanaethu cwsmeriaid
Yn wydn a hyblyg, ac yn gallu gweithio ar eich liwt eich hunain
Agwedd bositif a gweithredol tuag at ddatrys problemau, wrth weithio yn unol â chanllawiau |
Profiad o ddefnyddio System Rheoli Cynnwys ac / neu ddatblygu tudalennau'r we
|
Profiad |
Profiad o gyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg, ac fel arall |
Profiad o weithio ar lefel weinyddol mewn sefydliad mawr |
Mae Prifysgol Cymru, Casnewydd yn gweithredu Cynllun Iaith Gymraeg sy'n golygu fod y Brifysgol yn trin y Gymraeg a'r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. Fel canlyniad i Strategaeth Sgiliau Iaith Gymraeg y Brifysgol penodwyd y swydd hon yn un lle mae'r gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol. Byddwch yn gallu darllen, siarad ac ysgrifennu yn y Gymraeg. Ni chynigir y swydd i berson di-Gymraeg.
Cyfieithydd (0.5) £17,913-21,025 (yn ôl cyfran)
Rydym yn chwilio am gyfieithydd Cymraeg sydd â sgiliau cyfathrebu a TG cryf, a fydd yn gyfrifol am gyfieithu amrywiaeth o ddogfennau'r Brifysgol, gan gynnwys ein gwefan a'i gweinyddir gan System Rheoli Cynnwys (CMS). Byddwch yn brofiadol yn ddelfrydol, ond gellir darparu hyfforddiant os oes angen. 18.5 awr yr wythnos – trefn yr oriau gwaith i'w gytuno.
|