Staff y Swyddfa

Geraint Wyn Parry – Prif Weithredwr


Ymunodd â’r Gymdeithas ddiwedd Ebrill 2007 wedi cyfnod yn Rheolwr Busnes Cyfle. Cyn hynny gweithiodd mewn gwahanol swyddi gweinyddol a marchnata gyda Chyngor Sir Gwynedd/Cyngor Gwynedd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cwmni’r Frân Wen, a Chwmni Theatr Cymru.

Graddiodd yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Cyn hynny bu’n ddisgybl yng Ngholeg Llanymddyfri, Ysgol Gynradd Y Bermo, ac Ysgol Gymraeg Llundain.

Mae hefyd yn Ysgrifennydd Cymdeithas Theatr Cymru.
Mae’n byw yng Nghricieth.

Nia Wyn Edwards - Rheolwr Systemau

Dilynodd gwrs Drama yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth ac yna am 12 mlynedd bu'n gweithio fel actores hunan-gyflogedig mewn gwahanol feysydd gan gynnwys ffilm, teledu a theatr, yn bennaf ym myd theatr-mewn-addysg. Cafodd brofiad o gyd-ddyfeisio a chyd-ysgrifennu sgriptiau gwahanol sioeau. Yn ystod y cyfnod hwn bu hefyd yn gweithio fel cynorthwy-ydd gwerthu nwyddau mewn siop a derbynnydd mewn gwahanol ganolfannau croeso yn ardal Caernarfon a Môn.

Yn 1999 dilynodd gwrs amser llawn Diploma Dwyieithog Uwch mewn Gweithdrefnau Gweinyddol yng Ngholeg Menai gan ymuno â'r Gymdeithas fel Swyddog Gweinyddol llawn amser fis Gorffennaf 2000. Mae bellach yn Rheolwr Systemau y Gymdeithas.

Anwen Owen – Swyddog Datblygu

Yn wreiddiol o Lansannan (ger Dinbych) a bellach yn byw ym ym Mangor yn nes at ei swydd newydd!

Bu'n Ysgol Bro Aled ac Ysgol y Creuddyn cyn cael addysg bellach ym Mangor a graddio mewn Cerddoriaeth a Chymraeg. Ar ôl cwblhau cwrs ymarfer dysgu treuliodd y rhan helaeth o'r ddwy flynedd nesaf yn dysgu Cerdd, Cymraeg a Drama yn Ysgol Glan Clwyd cyn cael ei phenodi yn Swyddog Datblygu'r Gymdeithas ym mis Medi 2006.

 

  Cynnwys
  Cyflwyniad
  Cyfansoddiad y Gymdeithas
  Bwrdd y Cyfarwyddwyr
  Aelodau'r Bwrdd Arholi Testunau
  Aeolodau'r Bwrdd Cyfieithu ar y Pryd
  Bwletin Newyddion
  Cofnodion y Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol
 

Staff y Swyddfa

  Dadansoddiad Holiadur Hydref 2005
 
   
   
 

 
cliciwch yma i ddychwelyd i'r Hafan
Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, Bryn Menai, Ffordd Caergybi, Bangor, Gwynedd, LL57 2JA
Ffôn 01248 371 839
Ffacs 01248 371850