| BERWYN PRYS JONES(Cadeirydd) |
Cyfieithydd Hunan-gyflogedig |
Cyn-gyfieithydd yn y Swyddfa Gymreig a chyn-Bennaeth Uned Gyfieithur Swyddfa Gymreig.Golygydd Ymgynghorol Terminoleg Trefniadaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru.Cadeirydd y Gymdeithas oddi ar 1984. |
STEVE EAVES (Is-gadeirydd)
Aelod Cyfetholedig |
Uwch Ymgynghorydd Cwmni Iaith |
22 mlynedd o brofiad mewn llywodraeth leol, fel Swyddog Iaith a Phennaeth Cyfieithu. Profiad sylweddol o lunio a monitro Cynlluniau Iaith Gymraeg a rhoi cyngor ac arweiniad ar faterion polisi iaith mewn meysydd sensitif megis recriwtio, hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith a hysbysebu. Aelod o Fforwm Dwyieithrwydd Gogledd Cymru, cyn-aelod o Bwyllgor Llywio Menter Dinbych/Conwy ac un o sylfaenwyr Rhwydiaith. |
| GLENYS MAIR ROBERTS(Is-gadeirydd) |
Cyfieithydd Hunan-gyflogedig |
Bun Swyddog Golygyddol ac yn Swyddog Cymraeg i Oedolion i Gyd-bwyllgor Addysg Cymru, ac yn athrawes a phennaeth adran cyn hynny, ond maen gyfieithydd ar ei liwt ei hun ers dros ddeng mlynedd. |
ANN CORKETT
(Trysorydd) |
Cyfieithydd Hunan-gyflogedig, ar Bapur ac
ar y Pryd |
Bu'n gweithio am 12 mlynedd mewn llywodraeth leol, yn bennaf fel Cynorthwywr Personol i Brif Weithredwr Cyngor Dosbarth Ceredigion gynt. Y tu allan i'r gwaith, bu'n gweinyddu gwasanaeth cyfieithu cymunedol. Mae'n gyfieithydd testun a chyfieithydd ar y pryd ar ei liwt ei hun ers 1991, gan arbenigo ar gyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg, ac yn un o'r rhai cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio meddalwedd cof cyfieithu. Mae hi a'i gŵr, y Dr Bruce Griffiths, yn dysgu agweddau ar gyfieithu mewn dosbarth wythnosol. |
| RICHARD CROWE |
Prif Gyfieithydd Cyfraith, Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
Cyn Olygydd Cynorthwyol gyda Geiriadur Prifysgol
Cymru. Blwyddyn yn gweithio fel Cyfieithydd Cyfraith yng Nghynulliad
Cenedlaethol Cymru cyn ymuno â staff y Gwasanaeth Cyfieithu
i ymgymryd â gwaith terminoleg, cyfieithu ysgrifenedig
a chyfieithu ar y pryd. Bu'n Swyddog Polisi Ffilm, Darlledu a Chyhoeddi yn Llywodraeth y Cynulliad. Ar hyn o bryd mae'n Brif Gyfieithydd Cyfraith yng Ngwasanaeth Cyfieithu'r Cynulliad Cenedlaethol. |
| STEPHEN DAY |
Cyfieithydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru |
Dechreuodd ei yrfa ym maes cyfieithu yng Ngwasanaeth y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth. Bu'n gweithio yn Uned Gyfieithu Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf fel cyfieithydd. Yn Gyfieithydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru er 2002. |
| FIONA GANNON |
Pennaeth Uned Gyfieithu Cyngor Dinas a Sir Abertawe |
Bu'n darlithio mewn Cymraeg a Chymdeithaseg Iaith ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe am dair blynedd ar ôl gorffen PhD mewn tafodieitheg. Wedyn penderfynodd newid gyrfa ac aeth yn uwch-gyfieithydd i Gyngor Sir Caerfyrddin am ddwy flynedd. Bellach mae'n Bennaeth Uned Gyfieithu Cyngor Dinas a Sir Abertawe a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, a leolir yng Nghanolfan Gymraeg San Helen, Abertawe. Mae hefyd yn gwneud cryn dipyn o waith cyfieithu ar ei liwt ei hun. |
| HEINI GRUFFUDD |
Hunan-gyflogedig
Cyfarwyddwr ‘Llais y Lli' |
Cyfieithydd addysg tan 1990. Darlithydd prifysgol 1990-2003 |
IFOR GRUFFYDD
Aelod Cyfetholedig |
Cyfarwyddwr Canolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru |
Dechreuodd ei yrfa ym myd llywodraeth leol ar Ynys Môn fel Cyfieithydd dan Hyfforddiant ac yna fel Cyfieithydd cymwysiedig, cyn symud i rôl weinyddol gan arbenigo ar bolisi iaith. Ar ôl 14 mlynedd hefo'r Cyngor Sir, symudodd i Brifysgol Caerdydd i fod yn gyfrifol am ei Chynllun Iaith cyn newid cyfeiriad i reoli Canolfan Cymraeg i Oedolion y Brifysgol. Yn 2006, cafodd ei benodi'n Gyfarwyddwr ar Ganolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru ym Mhrifysgol Bangor; un o'r 6 chanolfan ranbarthol newydd trwy Gymru. |
| DEWI MORRIS JONES(Is -drysorydd) |
Wedi ymddeol |
Brodor o'r Hendy-gwyn. Graddiodd o Goleg Brifysgol Caerdydd a threulio nifer o flynyddoedd ar staff Prifysgol Brest yn Llydaw cyn dychwelyd i weithio i Gyngor Llyfrau Cymru fel Swyddog Golygyddol, yna Swyddog Cyfieithiadau ac yna Pennaeth yr Adran Olygyddol rhwng 1987 a'i ymddeoliad yn 2006 |
| ELFRYS JONES |
Cyfieithydd Hunan-gyflogedig |
Athrawes Gymraeg mewn Ysgol Uwchradd Gymraeg am dros ugain mlynedd, yna'n gyfieithydd i 4 Ysgol Uwchradd Ddwyieithog Clwyd. Aelod o dîm NFER Cymru'n paratoi TASau Cymraeg CA2 am rai blynyddoedd cyn ei phenodi'n Swyddog Iaith Gymraeg a Phrif Gyfieithydd Awdurdod Iechyd Gogledd Cymru. Bellach yn gyfieithydd hunan-gyflogedig ers 3 blynedd. |
| MEINIR McDONALD |
Cyfieithydd Hunan-gyflogedig |
1977-88, bu'n Ddarlithydd ac yn Gyfieithydd Swyddogol yng Ngholeg Ceredigion ac yn brif arholwr Cyfathrebu CBAC a'r RSA dros yr un cyfnod. Newydd ymddeol wedi 16 o flynyddoedd yn Olygydd/Rheolwr Projectau yn y Ganolfan Astudiaethau Addysg, Prifysgol Cymru Aberystwyth. Mae'n ymwneud â chyfieithu ers o leiaf 35 o flynyddoedd. |
MEGAN HUGHES TOMOS
(Ysgrifennydd y Cwmni)
|
|
Wedi cyfnod yn athrawes Gymraeg ar ôl gadael Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor yn 1971 dechreuodd ei gyrfa fel cyfieithydd yn Uned Gyfieithu Cyngor Sir Gwynedd cyn dychwelyd yn gyfieithydd i'w hen goleg. Bu'n Bennaeth yr Adran Gyfieithu yno am 12 mlynedd gan gyfuno'r swydd honno â gwaith gweinyddol mewn meysydd megis recriwtio myfyrwyr o Gymru a datblygu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Yna bu'n gweithio am gyfnod yn cyfieithu ar liwt ei hun gan gyfuno hynny â swydd ran-amser yn Drefnydd Cyrsiau Cymraeg Canolfan Ysgrifennu Ty Newydd. Bu'n cynnal a datblygu cyrsiau iaith i Ganolfan Bedwyr a sefydlu cwrs tystysgrif cyfieithu ar y cyd Adrannau Cymraeg Aberystwyth a Bangor . Bu'n cydweithio â Menter Môn ac Adran Dysgu Gydol Oes Prifysgol Cymru Bangor gan gyflwyno cyrsiau cyfieithu ar y pryd. Penodwyd hi'n Swyddog Gweinyddol rhan-amser cyntaf Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru ym 1997 ac yn Brif Weithredwr Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru nes rhoi gorau i'w swydd ddiwedd Mawrth 2007. |
BETHAN WILLIAMS
Aelod Cyfetholedig
|
Ar hyn o bryd yn teithio'r byd i ehangu ei gorwelion |
Ar ôl gadael y coleg, bu'n gweithio i gwmni Cymen ar Gynllun Cwmni Dysgu gyda Phrifysgol Bangor, cyn cael ei phenodi'n Olygydd Sgiliau Allweddol gyda CBAC. Cyn-reolwr Golygyddol Mathemateg a Gwyddoniaeth, CBAC. |