|
Y Gymdeithas
Sefydlwyd y Gymdeithas yn 1976 i ddarparu llwyfan
ar gyfer trafod materion yn ymwneud â chyfieithu Cymraeg/Saesneg
yng Nghymru. Bellach y mae'r Gymdeithas wedi cofrestru'n gwmni cyfyngedig drwy warant.
Fel yr awgryma logo'r Gymdeithas y mae'n ymwneud â chyfieithu
ar bapur a chyfieithu ar y pryd.
Nod y Gymdeithas yw Sicrhau Safonau Cyfieithu Proffesiynol ar
gyfer Cyfieithu Cymraeg/Saesneg.
Llywyddion Anrhydeddus y Gymdeithas yw Y Dr Bruce Griffiths a
Dafydd Glyn Jones, golygyddion Geiriadur yr Academi. Cyn
iddynt ymddeol yn ddiweddar roedd y Dr Bruce Griffiths yn ddarllenydd
yn Adran Ieithoedd Modern, Prifysgol Cymru Bangor a Dafydd Glyn
Jones yn ddarllenydd yn Adran Gymraeg y coleg hwnnw.
Mae'r Gymdeithas yn aelod swyddogol o Fédération Internationale des Traducteurs (FIT), sef corff rhyngwladol ar gyfer cymdeithasau cyfieithwyr proffesiynol sy'n hyrwyddo buddiannau cyfieithwyr a chyfieithu.
Y Gymdeithas fydd yn cynghori Bwrdd yr Iaith Gymraeg
ar faterion
cyfieithu. |