Comisiynu gwaith

1. Dewis cyfieithydd

Y mae cael cyfieithiad o safon yn hanfodol bwysig. Disgwylir i'n Haelodau Cyflawn gyflawni gwaith na fydd angen unrhyw olygu pellach arno.

Mae ein Haelodau Sylfaenol wedi llwyddo yn arholiad y Gymdeithas ac wedi cyrraedd y lefel sy'n briodol i gyfieithydd sydd wedi bod yn gweithio o dan oruchwyliaeth am flwyddyn o leiaf. Gall amryw ohonynt, wrth gwrs, fod yn llawer mwy profiadol na hynny.

Bydd y Cyfeirlyfr yn nodi pa iaith y mae'r ymgeisydd wedi ennill cymhwyster i gyfieithu iddi.

2. Cytuno ar delerau

Y mae'n bwysig egluro beth yw gofynion y gwaith a'r cyd-destun a thrafod unrhyw dermau arbennig a all godi.

Trafodwch sut yr hoffech i'r cyfieithiad gael ei gyflwyno, e.e. e-bost, copi caled/disg, trwy'r post neu dros y ffacs, neu gyfuniad o'r rhain. Gan fod copi ffacs yn gallu bod yn aneglur, dylech drefnu cael copi electronig neu gael copi caled drwy'r post.

Dylech gytuno ar delerau ac amserlen ar gyfer y gwaith ymlaen llaw. Fel arfer bydd cyfieithydd yn codi tâl am ei waith fesul 1,000 o eiriau, ond y mae gan y rhan fwyaf o gyfieithwyr dâl isafswm. Weithiau bydd angen codi tâl fesul awr. Holwch a yw'r cyfieithydd yn codi TAW.

Wrth gytuno ar y gyfradd gyfieithu dylech holi a yw'r gyfradd honno yn cynnwys gwasanaeth cywiro proflenni. Os nad yw, dylech holi am y gyfradd a godir am y gwaith hwnnw.

Er mwyn osgoi unrhyw gamddealltwriaeth dylech ddewis un aelod o'ch staff yn ddolen gyswllt rhwng eich cwmni/sefydliad a'r cyfieithydd.

Y mae'n bwysig bod y cyfieithydd yn gwarantu ansawdd a chysondeb os bydd mwy nag un cyfieithydd yn gweithio ar ddogfen.

3. Yswiriant Indemniad

Mae'r ffaith bod gan gyfieithydd yswiriant indemniad yn diogelu hawliau'r cwsmer ac yn awgrymu bod gan y cyfieithydd agwedd broffesiynol wrth ymdrin â chwsmeriaid.

4. Cywiro proflenni

Gan fod cywiro proflenni yn rhan bwysig o'r broses gyfieithu rhaid sicrhau digon o amser ar gyfer gwneud hynny yn drylwyr. Gall mân gamgymeriadau fod yn gostus, yn enwedig ar arwyddion.

Fel arfer y cyfieithydd ei hun fydd yn cywiro'r proflenni gan mai ef neu hi fydd yn gyfrifol am gywirdeb y gwaith terfynol. Gall camgymeriadau ddigwydd wrth anfon cyfieithiad drwy ffacs, yn enwedig os yw'r print yn fân neu os oes cefndir lliw i'r print.

5. Meddalwedd

Y mae'n bwysig eich bod yn holi pa feddalwedd y mae'r cyfieithydd yn ei ddefnyddio er mwyn sicrhau ei fod yn gydnaws â'ch meddalwedd chi. Bydd rhai sefydliadau sydd yn comisiynu gwaith cyfieithu yn barod i osod eu meddalwedd hwy ar gyfrifiadur y cyfieithydd.

6. Trefnu Gwasanaeth Cyfieithu ar y Pryd

Mae cyfieithu ar y pryd yn grefft bur wahanol i gyfieithu ar bapur. Defnyddir y gwasanaeth yn helaeth mewn rhai rhannau o Gymru gyda chyfarfodydd yn amrywio o gyfarfod cyngor cymuned i gynhadledd genedlaethol. At ei gilydd, cyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg a wneir yn y cyfarfodydd hyn er mwyn i'r di-Gymraeg fedru dilyn y gweithgareddau.

Dylai trefnwyr cyfarfodydd lle defnyddir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd anfon copïau o ddogfennau'r cyfarfod at y cyfieithydd ymlaen llaw.

I sicrhau llwyddiant y gwasanaeth, dylai'r Cadeirydd gyfeirio at y gwasanaeth ar ddechrau'r gweithgareddau a sicrhau bod pawb yn deall sut i ddefnyddio'r offer, ac yn gwybod i ba iaith y cyfieithir. Y mae llwyddiant y gwasanaeth yn dibynnu lawn cymaint ar agwedd y cadeirydd ag ar grefft y cyfieithydd. Os ydych fel cwmni neu sefydliad yn penderfynu gwario ar wasanaeth cyfieithu y mae'n bwysig eich bod yn annog aelodau'r pwyllgor neu'r cynadleddwyr i'w ddefnyddio.

Cofiwch fod y math hwn o gyfieithu yn waith trwm ac os rhagwelir y bydd angen i gyfieithydd fod wrthi am fwy na hanner awr yn ddi-dor, dylech gyflogi ail gyfieithydd.

Cytunwch ar y telerau ymlaen llaw wedi ichi holi mwy nag un cyfieithydd. Bydd cyfieithwyr yn codi am yr amser y byddant yn teithio yn ôl ac ymlaen o'u canolfan waith yn ogystal ag am yr oriau y byddant wrthi'n cyfieithu.

7. Offer Cyfieithu ar y Pryd

Bydd modd llogi offer cyfieithu oddi wrth wahanol gynghorau sir a mudiadau gwirfoddol ar hyd a lled Cymru. I gael rhagor o fanylion . . .

8. Aelodaeth Gyflawn

Mae safon Aelodaeth Gyflawn yn cyfateb i safon aelodaeth gwbl broffesiynol, sef nad oes angen unrhyw oruchwylio ar y cyfieithydd. Disgwylir iddo fedru cyfieithu’n rhugl ac yn gywir, ysgrifennu mewn sawl arddull a chywair yn ôl yr angen a gallu ymdopi ag iaith haniaethol neu dechnegol. Disgwylir iddo hefyd feddu ar ddealltwriaeth glir o gefndir diwylliannol y ddwy iaith. Ar ôl iddo gwblhau ac adolygu cyfieithiadau, ni ddylai fod angen eu diwygio na’u cywiro. Gall unrhyw gyfieithydd sydd â thair blynedd o brofiad o gyfieithu’n amser-llawn, neu â phrofiad cyfatebol o gyfieithu’n rhan-amser, ymgeisio am Aelodaeth Gyflawn.

Drwy arholiad yn unig y gellir ymgeisio am Aelodaeth Gyflawn. Cynhelir dau arholiad dwy awr a phum munud (125 munud) yr un ar ddiwrnod yr arholiad, cyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg (Papur 1) a chyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg (Papur 2). Mae’r ddau bapur yn cynnwys cyfieithu dau ddarn.

Y mae'r drefn arholi ar gyfer Aelodaeth Gyflawn wedi ei dilysu gan aelod o staff Prifysgol Cymru. Gweinyddir y drefn yn gwbl gyfrinachol a dienw. Gall ymgeiswyr ddewis sefyll un arholiad i un iaith yn unig neu sefyll y ddau arholiad. Dyfernir aelodaeth yn unol â’r iaith darged y mae’r ymgeisydd yn llwyddo ynddi a nodir y lefel(au) o aelodaeth yn glir ar y dystysgrif aelodaeth.

9. Aelodaeth Sylfaenol

Dyma'r lefel broffesiynol sylfaenol i'r rhai sy'n gwneud gwaith cyfieithu mewn amrywiaeth o feysydd cyffredinol ac yn trafod meysydd mwy arbenigol o bryd i'w gilydd. Disgwylir i'r safon gyfateb i waith cyfieithydd sydd ar ddechrau ei yrfa ac yn gweithio dan arolygiaeth cyfieithydd profiadol ers blwyddyn a rhagor. Disgwylir iddo fedru cyfieithu deunydd darllen cyffredinol yn weddol ddidrafferth. Dylai feddu ar ddealltwriaeth gyffredinol o gefndir diwylliannol y ddwy iaith

Drwy arholiad yn unig y gellir ymgeisio am Aelodaeth Sylfaenol. Cynhelir dau arholiad awr a 35 munud (95 munud) yr un ar ddiwrnod yr arholiad, cyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg (Papur 1) a chyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg (Papur 2). Mae’r ddau bapur yn cynnwys cyfieithu dau ddarn.

Y mae'r drefn arholi ar gyfer Aelodaeth Sylfaenol wedi ei dilysu gan aelod o staff Prifysgol Cymru. Gweinyddir y drefn yn gwbl gyfrinachol a dienw. Gall ymgeiswyr ddewis sefyll un arholiad i un iaith yn unig neu sefyll y ddau arholiad. Dyfernir aelodaeth yn unol â’r iaith darged y mae’r ymgeisydd yn llwyddo ynddi a nodir y lefel(au) o aelodaeth yn glir ar y dystysgrif aelodaeth.

Dyfernir Gwobr Goffa Wil Petherbridge i’r ymgeisydd gorau am Aelodaeth Sylfaenol, cyfieithu i’r Gymraeg, yn ystod y ddwy rownd arholi a gynhelir yn yr hydref a’r gwanwyn canlynol.

 

10. Aelodaeth Cyfieithu ar y Pryd

Mae safon Aelodaeth Cyfieithu ar y Pryd yn cyfateb i safon aelodaeth gwbl broffesiynol lle gall yr aelod gyfieithu’n rhugl ac yn gywir o’r Gymraeg i’r Saesneg mewn sefyllfaoedd sy’n amrywio o’r tra ffurfiol i’r anffurfiol iawn. Disgwylir iddo feddu ar ddealltwriaeth glir o gefndir diwylliannol y ddwy iaith.

Gall unrhyw gyfieithydd sydd â 200 awr o brofiad o fynychu cyfarfodydd fel cyfieithydd yn ystod y pum mlynedd diwethaf gyflwyno cais am sefyll y prawf am Aelodaeth Cyfieithu ar y Pryd.