|
Sut i gomisiynu cyfieithydd
Dewis
cyfieithydd | Cytuno
ar delerau | Yswiriant
Indemniad | Cywiro
proflenni | Meddalwedd
| Trefnu Gwasanaeth Cyfieithu
ar y Pryd | Offer
Cyfieithu ar y Pryd | Aelodaeth
Gyflawn | Aelodaeth
Sylfaenol | Aelodaeth
Cyfieithu ar y Pryd
1. Dewis cyfieithydd
Y mae cael cyfieithiad o safon yn hanfodol bwysig. Bydd ein Haelodau
Cyflawn yn medru cyflawni gwaith na fydd angen unrhyw olygu pellach
arno.
Mae ein Haelodau Sylfaenol wedi llwyddo yn arholiad y Gymdeithas
ac wedi cyrraedd y lefel sy'n briodol i gyfieithydd sydd wedi bod
yn gweithio o dan oruchwyliaeth am flwyddyn o leiaf. Gall amryw
ohonynt, wrth gwrs, fod yn llawer mwy profiadol na hynny.
Bydd y Cyfeirlyfr yn nodi pa iaith y mae'r ymgeisydd wedi ennill cymhwyster i gyfieithu iddi.
2. Cytuno ar delerau
Y mae'n bwysig egluro beth yw gofynion y gwaith a'r cyd-destun
a thrafod unrhyw dermau arbennig a all godi.
Trafodwch sut yr hoffech i'r cyfieithiad gael ei gyflwyno, e.e.
e-bost, copi caled/disg, trwy'r post neu dros y ffacs, neu gyfuniad
o'r rhain. Gan fod copi ffacs yn gallu bod yn aneglur, dylech drefnu
cael copi electronig neu gael copi caled drwy'r post.
Dylech gytuno ar delerau ac amserlen ar gyfer y gwaith ymlaen llaw.
Fel arfer bydd cyfieithydd yn codi tâl am ei waith fesul 1,000
o eiriau, ond y mae gan y rhan fwyaf o gyfieithwyr dâl isafswm.
Weithiau bydd angen codi tâl fesul awr. Holwch a yw'r cyfieithydd
yn codi TAW.
Wrth gytuno ar y gyfradd gyfieithu dylech holi a yw'r gyfradd honno
yn cynnwys gwasanaeth cywiro proflenni. Os nad yw, dylech holi am
y gyfradd a godir am y gwaith hwnnw.
Er mwyn osgoi unrhyw gamddealltwriaeth dylech ddewis un aelod o'ch
staff yn ddolen gyswllt rhwng eich cwmni/sefydliad a'r cyfieithydd.
Y mae'n bwysig bod y cyfieithydd yn gwarantu ansawdd a chysondeb
os bydd mwy nag un cyfieithydd yn gweithio ar ddogfen.
3. Yswiriant Indemniad
Mae'r ffaith bod gan gyfieithydd yswiriant indemniad yn diogelu
hawliau'r cwsmer ac yn awgrymu bod gan y cyfieithydd agwedd broffesiynol
wrth ymdrin â chwsmeriaid.
4. Cywiro proflenni
Gan fod cywiro proflenni yn rhan bwysig o'r broses gyfieithu rhaid
sicrhau digon o amser ar gyfer gwneud hynny yn drylwyr. Gall mân
gamgymeriadau fod yn gostus, yn enwedig ar arwyddion.
Fel arfer y cyfieithydd ei hun fydd yn cywiro'r proflenni gan mai
ef neu hi fydd yn gyfrifol am gywirdeb y gwaith terfynol. Gall camgymeriadau
ddigwydd wrth anfon cyfieithiad drwy ffacs, yn enwedig os yw'r print
yn fân neu os oes cefndir lliw i'r print.
5. Meddalwedd
Y mae'n bwysig eich bod yn holi pa feddalwedd y mae'r cyfieithydd
yn ei ddefnyddio er mwyn sicrhau ei fod yn gydnaws â'ch meddalwedd
chi. Bydd rhai sefydliadau sydd yn comisiynu gwaith cyfieithu yn
barod i osod eu meddalwedd hwy ar gyfrifiadur y cyfieithydd.
6. Trefnu Gwasanaeth Cyfieithu ar y Pryd
Mae cyfieithu ar y pryd yn grefft bur wahanol i gyfieithu ar bapur.
Defnyddir y gwasanaeth yn helaeth mewn rhai rhannau o Gymru gyda
chyfarfodydd yn amrywio o gyfarfod cyngor cymuned i gynhadledd genedlaethol.
At ei gilydd, cyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg a wneir yn y cyfarfodydd
hyn er mwyn i'r di-Gymraeg fedru dilyn y gweithgareddau.
Dylai trefnwyr cyfarfodydd lle defnyddir gwasanaeth cyfieithu ar
y pryd anfon copïau o ddogfennau'r cyfarfod at y cyfieithydd
ymlaen llaw.
I sicrhau llwyddiant y gwasanaeth, dylai'r Cadeirydd gyfeirio at
y gwasanaeth ar ddechrau'r gweithgareddau a sicrhau bod pawb yn
deall sut i ddefnyddio'r offer, ac yn gwybod i ba iaith y cyfieithir.
Y mae llwyddiant y gwasanaeth yn dibynnu lawn cymaint ar agwedd
y cadeirydd ag ar grefft y cyfieithydd. Os ydych fel cwmni neu sefydliad
yn penderfynu gwario ar wasanaeth cyfieithu y mae'n bwysig eich
bod yn annog aelodau'r pwyllgor neu'r cynadleddwyr i'w ddefnyddio.
Cofiwch fod y math hwn o gyfieithu yn waith trwm ac os rhagwelir
y bydd angen i gyfieithydd fod wrthi am fwy na hanner awr yn ddi-dor,
dylech gyflogi ail gyfieithydd.
Cytunwch ar y telerau ymlaen llaw wedi ichi holi mwy nag un cyfieithydd.
Bydd cyfieithwyr yn codi am yr amser y byddant yn teithio yn ôl
ac ymlaen o'u canolfan waith yn ogystal ag am yr oriau y byddant
wrthi'n cyfieithu.
7. Offer Cyfieithu ar y Pryd
Bydd modd llogi offer cyfieithu oddi wrth wahanol gynghorau sir
a mudiadau gwirfoddol ar hyd a lled Cymru. I gael rhagor o fanylion
8. Aelodaeth Gyflawn
Bydd hyn yn cyfateb i aelodaeth gwbl broffesiynol lle nad oes angen
unrhyw oruchwyliaeth.
I ddod yn Aelod Cyflawn gall unrhyw gyfieithydd sydd â thair
blynedd o brofiad o gyfieithu'n llawn-amser neu â phrofiad
cyfatebol o gyfieithu'n rhan-amser gyflwyno gwaith i'w asesu am
Aelodaeth Gyflawn drwy:
Naill ai
1. Gyflwyno gwaith i'w asesu. Bydd rhaid i'r ymgeisydd dystio mai ei waith ef ei hun yw'r gwaith a'i waith ef yn unig. Gofynnir i'r ymgeisydd hefyd gynnwys geirda Cyflogwr neu Gomisiynydd yn tystio i safon ei waith yn gyffredinol. Caiff y gwaith ei gyflwyno i ddau aelod o'r Bwrdd Arholi i ddyfarnu a yw'r ymgeisydd yn deilwng o Aelodaeth Gyflawn.
Neu
2. Sefyll arholiad 2 awr yn cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg a/neu sefyll arholiad 2 awr yn cyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg.
9. Aelodaeth Sylfaenol
Bydd hyn yn cyfateb i safon cyfieithydd sy'n gweithio dan oruchwyliaeth.
Rhaid i gyfieithwyr sydd yn ymgeisio am Aelodaeth Sylfaenol o'r
Gymdeithas sefyll arholiad/au y Gymdeithas. Cynhelir dau arholiad
1.5 awr o fewn sesiwn 3 awr - y naill yn gofyn i'r ymgeisydd gyfieithu
o'r Saesneg i'r Gymraeg a'r llall yn gofyn iddo gyfieithu o'r Gymraeg
i'r Saesneg.
Bydd safon unrhyw arholiad a gynigir gan y Gymdeithas am Aelodaeth
Sylfaenol yn sicrhau bod ymgeisydd yn cyrraedd lefel broffesiynol
briodol o ran ystyr, cywair, cystrawen a chywirdeb.
Y mae'r drefn asesu/arholi wedi ei dilysu gan aelod o staff Prifysgol
Cymru.
Gweinyddir y drefn yn gwbl gyfrinachol a di-enw.
10. Aelodaeth Cyfieithu ar y Pryd
Bydd hyn yn cyfateb i aelodaeth gwbl broffesiynol lle gall yr aelod gyfieithu'n rhugl ac yn gywir o'r Gymraeg i'r Saesneg mewn sefyllfaoedd yn amrywio o'r tra ffurfiol i'r anffurfiol iawn. Disgwylir iddo feddu ar ddealltwriaeth glir o gefndir diwylliannol y ddwy iaith.
Gall unrhyw gyfieithydd sydd â 200 awr o brofiad o fynychu cyfarfodydd fel cyfieithydd yn ystod y pum mlynedd diwethaf gyflwyno cais am sefyll y prawf am Aelodaeth Cyfieithu ar y Pryd
11. Aelodaeth Interim Cyfieithu ar y Pryd
Gall unrhyw un sydd â 200 awr o brofiad o fynychu cyfarfodydd fel cyfieithydd yn ystod y pum mlynedd diwethaf wneud cais am Aelodaeth Interim
Cyfieithu ar y Pryd. Bydd gofyn iddo wneud cais ffurfiol gan gyflwyno enw dau ganolwr. Codir tâl trafod o £25 ar bob ymgeisydd.
Disgwylir i bob Aelod Interim gymryd Prawf Aelodaeth Cyfieithu ar y Pryd o fewn tair blynedd i lansio'r drefn yn swyddogol fis Rhagfyr 2005. |