Geirfâu
Byddwn yn croesawu cyfraniadau gan gyfieithwyr ac eraill sydd wedi bod yn creu rhestri o dermau ac enwau ac yn eu cynnwys dan Geirfâu.
Fel man cychwyn yr ydym wedi cynnwys geirfa a luniodd Berwyn Prys Jones dros y blynyddoedd.
Rhyw fath o atodiad answyddogol a phersonol i’r Geiriadur Cymraeg Cyfoes yw’r rhestr Cymraeg - Saesneg.
Rhyw fath o atodiad answyddogol hefyd, ond i Eiriadur yr Academi y tro hwn, yw’r rhestr Saesneg-Cymraeg. Ffrwyth casglu geirfa dros gyfnod maith sydd yma, a cheisiwyd dileu ohono bob cyfieithiad sydd eisoes i’w gael yn y Geiriadur.
Bwydwyd yr ychwanegiadau i Dr Bruce Griffiths o flwyddyn i flwyddyn gan obeithio y caent weld golau dydd mewn fersiwn diwygiedig o’r campwaith hwnnw.
Nid fy nghyfieithiadau i yw pob un ohonynt - nid o bell ffordd. Codwyd ambell un, er enghraifft, o ddarllen is-deitlau Pobol y Cwm ac amryw byd o raglenni teledu eraill gan fy mod i’n teimlo’i bod hi’n werth cofnodi rhai o’r cyfieithiadau hynny cyn iddynt ddiflannu am byth.
Os hoffech gyfrannu at y casgliad neu gywiro unrhyw gamsillafu neu gamdeipio ynddo, anfonwch eich sylwadau at y swyddfa er mwyn iddynt eu gyrru ymlaen at yr awdur.
Os hoffech gyfrannu eich casgliad eich hun o eirfa - pa mor amrwd bynnag y bo - i’r wefan, anfonwch ef at swyddfa@cyfieithwyrcymru.org.uk
Fe all y bydd o werth i ryw gyfieithydd arall ryw ddydd!
Berwyn Prys Jones
Cadeirydd