Aelodaeth Sylfaenol

Safon Aelodaeth Sylfaenol (Testun)

Dyma'r lefel broffesiynol sylfaenol i'r rhai sy'n gwneud gwaith cyfieithu mewn amrywiaeth o feysydd cyffredinol ac yn trafod meysydd mwy arbenigol o bryd i'w gilydd. Disgwylir i'r safon gyfateb i waith cyfieithydd sydd ar ddechrau ei yrfa ac yn gweithio dan arolygiaeth cyfieithydd profiadol ers blwyddyn a rhagor.

Disgwylir iddo fedru cyfieithu deunydd darllen cyffredinol yn weddol ddidrafferth. Dylai feddu ar ddealltwriaeth gyffredinol o gefndir diwylliannol y ddwy iaith.

Meini Prawf

Drwy arholiad yn unig y gellir ymgeisio am Aelodaeth Sylfaenol. Cynhelir dau arholiad dwy awr a 5 munud (125 munud) yr un o fewn sesiwn arholi:

Papur Un – Cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg
Papur Dau – Cyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg

Bydd llwyddo mewn unrhyw arholiad a gynigir gan y Gymdeithas am Aelodaeth Sylfaenol yn sicrhau bod yr ymgeisydd wedi cyrraedd lefel broffesiynol briodol o ran ystyr, cywair, cystrawen a chywirdeb. Mae enghreifftiau o hen bapurau arholiad Aelodaeth Sylfaenol i'w gweld yma.

Nid oes rhaid llwyddo yn y ddau arholiad cyn medru ennill aelodaeth o'r Gymdeithas. Gall ymgeisydd hefyd ddewis sefyll arholiad ar sail cyfieithu i un iaith yn unig. Os bydd ymgeisydd yn llwyddo ac os caiff ei dderbyn yn aelod bydd y Cyfeirlyfr yn nodi pa iaith y mae'r ymgeisydd wedi ennill cymhwyster i gyfieithu iddi.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â'r swyddfa

 

 
Graffigwaith Ymaelodi Graffigwaith Chwilio am aelod


Tâl Aelodaeth

Aelodaeth Cyfieithu ar y Pryd: £130 y flwyddyn
Aelodaeth Gyflawn: £130 y flwyddyn
Aelodaeth Sylfaenol: £120 y flwyddyn

Cliciwch ar y dolenni isod i gael gwybod rhagor am y gwahanol fathau o aelodaeth a'r drefn arholi ac i lwytho i lawr rai o'n hen bapurau arholiad:

Arholiadau Cyfredol
Aelodaeth Gyflawn
Aelodaeth Sylfaenol
Aelodaeth Cyfieithu ar y Pryd
Aelodaeth Gorfforaethol
Cwestiynau Cyffredin
Hen Bapurau Arholiad