Croeso

Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yw’r corff proffesiynol cenedlaethol ar gyfer cyfieithwyr Cymraeg/Saesneg, p’un a ydynt yn gyfieithwyr testun neu’n gyfieithwyr ar y pryd.

Ei nod yw sicrhau safonau proffesiynol ym maes cyfieithu Cymraeg/Saesneg a sicrhau hefyd fod y diwydiant cyfieithu’n datblygu’n effeithiol fel rhan o’r broses o hyrwyddo’r Gymraeg a dwyieithrwydd.

Mae gan y Gymdeithas dair lefel o aelodaeth broffesiynol: Cyflawn a Sylfaenol ym maes cyfieithu testun ac aelodaeth Cyfieithu ar y Pryd. Rhaid llwyddo yn nhrefn arholi’r Gymdeithas i ennill aelodaeth ohoni.

Noddir y Gymdeithas gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac fe’i hystyrir hi’n un o brif bartneriaid y Bwrdd. Bydd y Gymdeithas yn cynghori’r Bwrdd ar faterion cyfieithu.

I ddod o hyd i gyfieithydd cydnabyddedig sydd ar gael i wneud gwaith masnachol cliciwch yma.

I gael rhestr lawn o'r holl aelodau yn nhrefn y wyddor cliciwch yma.



 

 
Graffigwaith Ymaelodi Graffigwaith Chwilio am aelod

Y NEWYDDION DIWEDDARAF ... 

Gweithdai:

Rhaglen lawn o weithdai ar gyfer Ionawr-Mawrth 2010. I gael rhagor o wybodaeth a ffurflen gofrestru cliciwch yma.

Gweithdai'r wythnos hon:

  • Arholiad Sylfaenol, Caernarfon - 12 Mawrth 2010

*****************************************************

Prawf Cyfieithu ar y Pryd: 18 Mawrth 2010


Arholiadau Aelodaeth (testun) nesaf: 17 Ebrill 2010 

 

logo Bwrdd yr Iaith Gymraeg a logo Llywodraeth Cynulliad Cymru