Croeso

Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yw’r corff proffesiynol cenedlaethol ar gyfer cyfieithwyr Cymraeg/Saesneg, p’un a ydynt yn gyfieithwyr testun neu’n gyfieithwyr ar y pryd.

Ei nod yw sicrhau safonau proffesiynol ym maes cyfieithu Cymraeg/Saesneg a sicrhau hefyd fod y diwydiant cyfieithu’n datblygu’n effeithiol fel rhan o’r broses o hyrwyddo’r Gymraeg a dwyieithrwydd.

Mae gan y Gymdeithas dair lefel o aelodaeth broffesiynol: Cyflawn a Sylfaenol ym maes cyfieithu testun ac aelodaeth Cyfieithu ar y Pryd. Rhaid llwyddo yn nhrefn arholi’r Gymdeithas i ennill aelodaeth ohoni.

Noddir y Gymdeithas gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac fe’i hystyrir hi’n un o brif bartneriaid y Bwrdd. Bydd y Gymdeithas yn cynghori’r Bwrdd ar faterion cyfieithu.

I ddod o hyd i gyfieithydd cydnabyddedig sydd ar gael i wneud gwaith masnachol cliciwch yma.

I gael rhestr lawn o'r holl aelodau yn nhrefn y wyddor cliciwch yma.



 

 
Graffigwaith Ymaelodi Graffigwaith Chwilio am aelod

Y NEWYDDION DIWEDDARAF ... 

GWEITHDAI MEDI-RHAGFYR 2010

I weld ein rhaglen lawn o weithdai ar gyfer yr hydref cliciwch yma.

 

Arholiadau Aelodaeth (testun) nesaf:
9 Hydref 2010
 

 


logo Bwrdd yr Iaith Gymraeg a logo Llywodraeth Cynulliad Cymru