| Geirfâu
Byddwn yn croesawu cyfraniadau gan gyfieithwyr ac
eraill sydd wedi bod yn creu rhestri o dermau ac enwau ac yn eu
cynnwys dan Geirfâu. Fel man cychwyn yr ydym wedi cynnwys
geirfa a luniodd Berwyn Prys Jones dros y blynyddoedd.
| |
|
Dogfen Word |
|
Ffeil PDF |
|
|
|
|
|
Cymraeg-Saesneg
|
|
|
|
|
Saesneg-Cymraeg
(noder 129 tudalen)
|
|
|
|
|
Rhyw fath o atodiad answyddogol a phersonol i’r
Geiriadur Cymraeg Cyfoes yw’r rhestr Cymraeg - Saesneg.
Rhyw fath o atodiad answyddogol hefyd, ond i Eiriadur yr Academi
y tro hwn, yw’r rhestr Saesneg-Cymraeg. Ffrwyth casglu geirfa
dros gyfnod maith sydd yma, a cheisiwyd dileu ohono bob cyfieithiad
sydd eisoes i’w gael yn y Geiriadur.
Bwydwyd yr ychwanegiadau i Dr Bruce Griffiths o flwyddyn i flwyddyn
gan obeithio y caent weld golau dydd mewn fersiwn diwygiedig o’r
campwaith hwnnw.
Nid fy nghyfieithiadau i yw pob un ohonynt - nid o bell ffordd.
Codwyd ambell un, er enghraifft, o ddarllen is-deitlau Pobol y Cwm
ac amryw byd o raglenni teledu eraill gan fy mod i’n teimlo’i
bod hi’n werth cofnodi rhai o’r cyfieithiadau hynny
cyn iddynt ddiflannu am byth.
Os hoffech gyfrannu at y casgliad neu gywiro unrhyw gamsillafu
neu gamdeipio ynddo, anfonwch eich sylwadau at berwyn@prysj.freeserve.co.uk
Os hoffech gyfrannu eich casgliad eich hun o eirfa - pa mor amrwd
bynnag y bo - i’r wefan, anfonwch ef at swyddfa@cyfieithwyrcymru.org.uk
Fe all y bydd o werth i ryw gyfieithydd arall ryw ddydd!
Berwyn Prys Jones
Cadeirydd
|