| Adnoddau
Cyfle i gasglu ynghyd gronfa o wybodaeth berthnasol
i gyfieithwyr ac eraill sy’n ymwneud â chyfieithu a
dwyieithrwydd.
Yr ydym wedi llunio rhestr o Lyfryddiaeth Sylfaenol ar gyfer
Unedau Cyfieithu y gallai unrhyw gyfieithydd ei defnyddio wrth
drafod anghenion swyddfa gyda’i gyflogwr.
Byddwn yn croesawu cyfraniadau gan gyfieithwyr ac eraill sydd wedi
bod yn creu rhestri o dermau ac enwau ac yn eu cynnwys dan Geirfâu.
Fel man cychwyn yr ydym wedi cynnwys geirfa y mae Berwyn Prys Jones
wedi’i llunio dros y blynyddoedd.
Bydd modd ymweld â gwefan Canolfan Bedwyr drwy’r
adran hon er mwyn cael gwybodaeth am ddatblygiadau sydd ar y gweill.
Gellir ymuno yn y drafodaeth ddyddiol ar dermau drwy gofrestru
gyda welshtermaucymraeg a bydd hynny hefyd yn golygu y gellir
ymgynghori ag archif y drafodaeth.
Dan Terminoleg gellir cael copi electronig o Llyfryddiaeth
Geiriaduron Termau (1985) ynghyd â rhestr o’r Termau
a gyhoeddwyd wedi hynny.
Gobeithir creu cronfa gynhwysfawr o leoliad offer cyfieithu, Offer
Cyfieithu ar y Pryd, ynghyd â manylion am yr offer a’r
telerau llogi. Os byddwch yn ystyried prynu offer cyfieithu ar y
pryd, gellwch gysylltu â’r ddau gwmni isod sy’n
darparu systemau ar gyfer rhannau o Gymru.
Dan Llyfryddiaeth Gefndir rhestrir cyfrolau ac erthyglau
am gyfieithu a dwyieithrwydd.
| Croeso i unrhyw un ychwanegu
at y gronfa drwy awgrymu rhestr o dermau, geiriadur, erthygl
neu ymchwil sy’n berthnasol i’r byd cyfieithu
cysylltwch
â’r swyddfa |
|