| CYNGOR POWYS |
| Cyswllt: |
|
Uned Gymraeg
Neuadd y Sir
Cyngor Powys
Llandrindod
Powys
LD1 5LG |
| Rhif ffôn: |
|
01597 826126 |
| Ebost: |
|
translation@powys.gov.uk |
| |
| LLOGI OFFER CYFIEITHU AR Y PRYD |
| Ar gael ar gyfer: |
|
cyfieithwyr, unigolion, mudiadau, cwmnïau, sefydliadau ayyb |
| Ystafell gydag offer cyfieithu: |
|
Siambr y Cyngor Llandrindod
Ystafell Bwyllgor Llandrindod
Siambr y Cyngor Y Trallwng |
| Offer cyfieithu symudol: |
|
Tourguide 40 clustffon |
| Prisiau llogi ystafell: |
|
i'w trafod |
| Prisiau llogi offer symudol: |
|
£25.00 am 20 clustffon
£50.00 am 40 clustffon |
| Prisiau gostyngol: |
|
mudiadau gwirfoddol:
£10.00 am 20 clustffon
£20.00 am 40 clustffon |
| Yswirio’r offer: |
|
Cyngor Powys; cwsmer yn gyfrifol am y clustffonau |
Telerau cymunedol ar gael
Canllawiau ar gyfer cyfarfodydd dwyieithog ar gael |
| |
|
|
| |
| Cwmni AWEL a chwmni SWIFTS |
| Cyswllt: |
|
Mr Eurwyn Pierce Jones, B.A, BSc, Mth, MIMtg |
| Rhif ffôn: |
|
01686 630628 |
| Ebost: |
|
epj@dialstart.net |
| |
| LLOGI OFFER CYFIEITHU AR Y PRYD |
| Ar gael ar gyfer: |
|
Ar gael ar gyfer unrhyw un a fynno, ar gyfer amrediad eang o achlysuron, ar delerau busnes masnachol; llogir gwahanol offer at ei ddefnyddio drwy Brydain benbaladr, gan gynnwys ledled Cymru wrth gwrs. |
| Offer cyfieithu symudol: |
|
Sustem a Phensetiau Gwifrog (2 sianel): 200 (Darpariaeth ar gyfer y trwm eu clyw: 20 penset)
Sustem a Phensetiau Radio (3 sianel): 250 (Darpariaeth ar gyfer y trwm eu clyw: 25 penset)
Sustem a Phensetiau Isgoch (2 sianel): 300 (Darpariaeth ar gyfer y trwm eu clyw: 25 penset)
Sustem a Phensetiau Dolennog : 50
Sustem Unedau Ystafell Bwyllgora (5S): 60 (Darpariaeth ar gyfer y trwm eu clyw: 60 penset)
Sustemau atgyfnerthu, chwarae, trosglwyddo a recordio sain (PA), mewn ystod eang o ddigwyddiadau. Hefyd ar gael: (1) Bwth cyfieithu ar gyfer dau gyfieithydd ar-y-pryd, a (2) Sustem di-benset: 5 seinydd. |
| Prisiau llogi offer symudol: Trwy drefniant - yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau, e.e., pa fath o offer y gofynnir amdano, union nifer o bensetiau a fyddo eu hangen, pwy sy'n dymuno eu defnyddio, natur y lleoliad, gyda neu heb gyfieithydd, cludiant yno ac yn ôl, ar ba amser o'r dydd neu'r hwyr / penwythnos y byddo eu hangen, ac ati. |
| Clustffonau ychwanegol: Yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau - nid y lleiaf o bwys, eu hargaeledd ar y diwrnod dan sylw a'r cyfnod o amser y derbynnir y cais rhag blaen amdanynt - gellir yn ddamcaniaethol ddarparu hyd at 500 o bensetiau ychwanegol, fel arfer ar delerau drytach na'r pris cyffredin am y niferoedd a ddyfynnir uchod. Yn fras, rhwng £2.00 a £5.00 yr un am bob penset (daw rhai mewn unedau o ddim llai nag 20 ar y tro). |
| Prisiau gostyngol: Fel arfer, i gleientiaid cyson yn unig - yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau eraill, i'w trafod ar y pryd . |
| Yswirio’r offer: Cyfrifoldeb y ‘trydydd parti' - sef y person neu'r sefydliad a fyddo'n talu am y llogi - fydd digolledu ein cwmni ni am unrhyw niwed i'r offer ac/neu am bob penset (corn gwrando / clust-ffôn) na ddychwelir ar ddiwedd cyfnod y llogi. Bydd y pris am bob penset a gollir yn amrywio rhwng £75.00 a £350.00 yr un, yn dibynnu ar y math o benset a gollwyd (/ na ddychwelwyd mohono) yn ogystal â llog o 10.00% o'r cyfryw swm am bob wythnos wedi hynny y bydd yn rhaid i'n cwmni ni aros am y swm dyledus, yn dilyn y diwrnod pan aeth y penset ar goll. Mater i'r trydydd parti felly fydd y penderfyniad i yswirio neu ddim, i wynebu'r taliad posibl hwnnw. Does dim rheswm pam y dylid colli na thorri unrhyw un o'r pensetiau, o'u defnyddio yn ôl y cyfarwyddiadau a ddarperir gan y cwmni, ac o sicrhau y cynhelir y cyfarfod dan amodau cyfrifol. |
TECHNEGYDD AR GAEL OS BYDD ANGEN
Bydd pob cyfieithydd a anfonir allan gyda pha bynnag fath o offer cyfieithu o eiddo ein cwmni ni, yn gyfieithydd a fydd wedi derbyn hyfforddiant technegol cymwys y cwmni, i'r perwyl o fedru trin a thafod yr offer dan sylw yn broffesiynol a hyfedrus. Yn yr un modd, bydd pob offer cyfieithu a anfonir allan o'n swyddfa ni wastad yn offer a fydd wedi derbyn sylw cynnal a chadw priodol, wedi ei wefru'n gywir, ac wedi ei wirio i sicrhau ei fod yn gweithio'n iawn ac yn gymwys at ei ddefnyddio yn ôl gofynion y cleient dan sylw. |
| Canllawiau ar gyfer cyfarfodydd dwyieithog ar gael |
Mae gan y cwmni amrywiaeth o wahanol ‘ganllawiau dwyieithog' ei hun ar gael, yn dibynnu ar natur y cyfarfod y bydd adnoddau a gwasanaeth cyfieithu ar-y-pryd ar gael ynddo. Ni ddarperir y rhain fel mater o arferiad, oni bai ein bod ni'n cael gwybod ymlaen llaw yn union sut fath o gyfarfod fydd yn cael ei gynnal; gan fod cymaint o wahaniaethau yn amgylchiadau'r gwahanol fathau o gyfarfodydd y cyfieithir ynddynt.
Telerau cymunedol ar gael; Yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau; gan gofio mai cwmni masnachol ydym ni, nad ydym erioed wedi derbyn ceiniog o gymhorthdal o unrhyw ffynhonnell, i'n galluogi i ddarparu gwasanaethau ar golled ariannol. Rydym ni wedi talu pris llawn y farchnad am ein holl offer (nid fel y mentrau iaith, sydd wedi prynu eu hoffer hwy gyda chymorth grantiau ac ati), ac mae ein hoffer ni'n cael ei ddiweddaru'n gyson drwy fuddsoddiadau enfawr o arian. Dylid cadw ar gof hefyd ein bod ni'n defnyddio cyfieithwyr hyfforddedig, cymwysedig a phrofiadol iawn, sy'n haeddu derbyn cyflog safonol i adlewyrchu safon eu proffesiynoldeb; a bod hynny'n golygu bod ein cwmni ni dan oblygiadau i dalu iddynt raddfeydd sylweddol uwch (1½ > 2) am ddarparu eu gwasanaeth ar oriau ‘anghymdeithasol' gyda'r hwyr ac ar benwythnosau. |
| |
| |
| MENTER BRYCHEINIOG |
| Cyswllt: |
|
Kevin Davies, Menter Brycheiniog, Canolfan Ieuenctid a Chymuned Ystradgynlais, Hendreladus, Penrhos, Ystradgynlais, Powys SA9 1SE.
Dalier Sylw: Am fy mod yn gweithio rhan amser (Dydd Llun, Dydd Mawrth a Dydd Mercher yn unig), fe fydd eisiau digon o rybudd arnaf (pythefnos yn ddelfrydol) i sicrhau bod yr offer cyfieithu yn barod ar eich cyfer. |
| Rhif ffôn: |
|
01639 844513 |
| Ebost: |
|
menterb@powys.gov.uk |
| |
| LLOGI OFFER CYFIEITHU AR Y PRYD |
| Ar gael ar gyfer |
|
Mudiadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol, cyfiethwyr ar y pryd. |
| Offer cyfieithu |
|
Offer Is-goch Sennheiser, 20 o glustffonau |
Prisiau llogi offer symudol |
|
£30 y dydd |
| Clustffonau ychwanegol |
|
Mae'r offer yn cynnwys 20 o glustffonau. Nid oes clustffonau ychwanegol ar gael. |
| Prisiau gostyngol |
|
I'w drafod |
| Yswirio'r offer |
|
Wedi ei yswirio |
| Technegydd ar gael |
|
Nac oes ond cynigir hyfforddiant. |
| Costau teithio |
|
Y cwsmer sy'n gyfrifol am gasglu a dychwelyd yr offer i'n swyddfa mewn amser. Codir tâl ychwanegol os byddwch yn hwyr. |
Canllawiau ar gyfer cyfarfodydd dwyieithog ddim eto ar gael ond croeso i chi ei drafod gyda ni |
Telerau cymunedol i'w drafod gyda'r cwsmer.
|
|
| |
| |
| MENTER MALDWYN |
| Cyswllt: |
|
Menter Maldwyn
Yr Hen Goleg
Y Drenewydd
Powys
|
| Rhif ffôn: |
|
01686 614021 |
| Ebost: |
|
menterm@powys.gov.uk |
| |
| LLOGI OFFER CYFIEITHU AR Y PRYD |
| Ar gael ar gyfer: |
|
Cyfieithwyr, unigolion, mudiadau, cwmnïau, sefydliadau, ysgolion ayyb |
| Offer cyfieithu symudol: |
|
Tourguide 40 clustffon |
| Prisiau llogi offer symudol: |
|
£10.00 y dydd am set o 20 clustffon |
| Yswirio’r offer: |
|
cwsmer / cyfieithydd / y fenter |
| Canllawiau ar gyfer cyfarfodydd dwyieithog ar gael |