| Offer Cyfieithu ar y Pryd/ Meddalwedd
Cyfieithu Testunau
Lleoliad Offer Cyfieithu ar y Pryd
Cyflwyniad i Gronfa o Leoliad Offer
Cyfieithu ar y Pryd
Cronfa Lleoliad Offer Cyfieithu
ar y Pryd
Cyflwyniad
Yn adroddiadau diweddaraf Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Ein
Hiaith: Ei Dyfodol a Iaith Pawb, gwelwyd pwyslais cynyddol ar ddefnyddio’r
iaith Gymraeg yn y gymuned. Bydd hyn yn golygu y bydd y galw am
gyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd dwyieithog yn tyfu. Wrth sylweddoli
manteision ymarferol a gwleidyddol cynnig gwasanaeth o’r
fath bydd mwy a mwy o sefydliadau a busnesau yn ystyried defnyddio
offer cyfieithu a chyfieithydd i gynnal eu cyfarfodydd yn ddwyieithog.
Bydd sefydliadau a chymdeithasau o bob math yn llogi offer
cyfieithu i fudiadau, busnesau, sefydliadau a grwpiau amrywiol, ac weithiau
yn darparu cyfieithydd yn ogystal. Mae’r Mentrau Iaith a
grwpiau eraill sy’n gweithio o fewn y gymuned, yn gwahaniaethu,
o ran eu telerau a phrisiau llogi, rhwng defnydd masnachol (llogi’r
offer i gwmnïau a sefydliadau gweddol fawr) a defnydd
cymunedol a gwirfoddol (llogi i grwpiau gwirfoddol a di-elw).
Bydd y gronfa hon yn hwyluso’r gwaith o drefnu cyfarfodydd
dwyieithog. Y nod yw rhannu gwybodaeth a rhoi help llaw i ateb
y cwestiynau pwysig sy’n codi wrth gynllunio cyfarfodydd
o’r fath:
- Ble gellir llogi offer?
- Beth yw cost llogi
offer a gwasanaeth cyfieithu?
- A oes telerau arbennig ar
gyfer mudiadau gwirfoddol a chyfarfodydd a drefnir o fewn y
gymuned?
- Beth yw rôl y cyfieithydd a’r cadeirydd mewn
cyfarfod dwyieithog? (Gweler O
Glust i Glust)
- Beth yw’r gwahanol fathau o offer cyfieithu ar y pryd
sydd ar gael? (Gweler O Glust i Glust)
Ni allwn ni fel Cymdeithas warantu safon na chyflwr yr offer a
restrir yn y gronfa ond ein nod yw rhoi amcan o’r hyn sydd
ar gael ac ymhle. Bydd rhaid trafod manylion ac amodau gyda darparwyr
yr offer a’r cyfieithydd.
Byddem yn croesawu unrhyw wybodaeth y gellir ei hychwanegu at
y gronfa, neu newidiadau i’r wybodaeth a roddir ar hyn o
bryd. Gallwch wneud hynny trwy gysylltu â ni yn y swyddfa.
|