Aelodaeth Gorfforaethol

Mae gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru 7 Aelod Corfforaethol:
Calan, Cyfiaith, Cymen, Pennawd, Prysg, Testun a Trywydd.

Nes y byddwn wedi diweddaru'n gwefan, dyma fanylion cyswllt yr Aelodau Corfforaethol 

Mae Aelodaeth Gorfforaethol yn agored i gwmnïau cyfieithu preifat sy'n gweithredu ym maes cyfieithu Cymraeg/Saesneg ers o leiaf dair blynedd. Rhaid i'r cwmni gyflogi lleiafswm o dri chyfieithydd Cymraeg/Saesneg fel aelodau staff craidd. Rhaid i o leiaf draean o'r staff craidd fod yn aelodau Cyflawn a/neu'n aelodau CAP o'r Gymdeithas. [Diffinnir staff craidd fel gweithwyr i'r cwmni - sef perchnogion, cyfarwyddwyr a gweithwyr cyflogedig - sy'n treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn gwneud gwaith cyfieithu, cyfieithu ar y pryd, prawfddarllen neu olygu].

Mae aelodaeth unigol o'r Gymdeithas yn greiddiol i Aelodaeth Gorfforaethol. Disgwylir i bob cyfieithydd a gyflogir fod yn aelod o'r Gymdeithas neu fod yn gweithio tuag at hynny.

Rhaid i gwmni sy'n chwennych Aelodaeth Gorfforaethol fodloni nifer o feini prawf a chyflwyno tystiolaeth ddogfennol.

 

 
Graffigwaith Ymaelodi Graffigwaith Chwilio am aelod


Tâl Aelodaeth

Aelodaeth Cyfieithu ar y Pryd: £130 y flwyddyn
Aelodaeth Gyflawn: £130 y flwyddyn
Aelodaeth Sylfaenol: £120 y flwyddyn

Cliciwch ar y dolenni isod i gael gwybod rhagor am y gwahanol fathau o aelodaeth a'r drefn arholi ac i lwytho i lawr rai o'n hen bapurau arholiad:

Arholiadau Cyfredol
Aelodaeth Gyflawn
Aelodaeth Sylfaenol
Aelodaeth Cyfieithu ar y Pryd
Aelodaeth Gorfforaethol
Cwestiynau Cyffredin
Hen Bapurau Arholiad