Adnoddau
Cyfle i gasglu ynghyd gronfa o wybodaeth berthnasol i gyfieithwyr ac eraill sy’n ymwneud â chyfieithu a dwyieithrwydd.
Yr ydym wedi llunio rhestr o Lyfryddiaeth Sylfaenol ar gyfer Unedau Cyfieithu y gallai unrhyw gyfieithydd ei defnyddio wrth drafod anghenion swyddfa gyda’i gyflogwr.
Byddwn yn croesawu cyfraniadau gan gyfieithwyr ac eraill sydd wedi bod yn creu rhestri o dermau ac enwau ac yn eu cynnwys dan Geirfâu. Fel man cychwyn yr ydym wedi cynnwys geirfa y mae Berwyn Prys Jones wedi’i llunio dros y blynyddoedd.
Bydd modd ymweld â gwefan Canolfan Bedwyr drwy’r adran hon er mwyn cael gwybodaeth am ddatblygiadau sydd ar y gweill.
Gellir ymuno yn y drafodaeth ddyddiol ar dermau drwy gofrestru gyda welshtermaucymraeg a bydd hynny hefyd yn golygu y gellir ymgynghori ag archif y drafodaeth.
Dan Terminoleg gellir cael copi electronig o Llyfryddiaeth Geiriaduron Termau (1985) ynghyd â rhestr o’r Termau a gyhoeddwyd wedi hynny.
Gobeithir creu cronfa gynhwysfawr o leoliad offer Cyfieithu ar y Pryd, ynghyd â manylion am yr offer a’r telerau llogi.
Dan Llyfryddiaeth Gefndir rhestrir cyfrolau ac erthyglau am gyfieithu a dwyieithrwydd.